Cynffig
Pentref ym mwrdeisdref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Cynffig (Seisnigiad: Kenfig). Hyd at 1832 roedd yn fwrdeisdref. Saif yn yr ardal a adwaenid fel Tir Iarll.
Math |
pentref, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
776.69 ha ![]() |
Cyfesurynnau |
51.5153°N 3.7272°W, 51.518334°N 3.744534°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Carwyn Jones (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Dynodwyd Twyni Cynffig a'r llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig; ceir nifer o blanhigion prin yn y twyni ac mae'r llyn yn lle poblogaidd i wylio adar. Ceir adfeilion Castell Cynffig yma hefyd, yntau wedi ei gladdu gan y tywod.
Gerllaw, mae Y Sger, cartef Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) yn y 18g.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Carwyn Jones (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[1][2]
HanesGolygu
Ceir olion yn yr ardal o oes yr Efydd, ac roedd yma dref yn y Canol Oesoedd sydd yn awr wedi ei gorchuddio gan dywod Twyni Cynffig. Adeiladwyd y pentref presennol ymhellach o'r môr.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bragle · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefn Cribwr · Corneli · Cwm Ogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Maesteg · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynydd Cynffig · Nant-y-moel · Notais · Pencoed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pen-y-fai · Y Pîl · Pontycymer · Porthcawl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre