Iestyn ap Gwrgant
brenin olaf Morgannwg
Iestyn ap Gwrgant (1045-1093) oedd brenin olaf Morgannwg. Roedd yn fab i Gwrgant o Forgannwg. Roedd yn un o ddisgynyddion Arglwyddi Afan.
Iestyn ap Gwrgant | |
---|---|
Ganwyd | 1045 ![]() Teyrnas Glywysing ![]() |
Bu farw | 1093 ![]() Rhiwbeina ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Blodeuodd | 1081 ![]() |
Tad | Gwrgant ab Ithel ![]() |
Mam | NN ferch Cynfyn ap Gwerystan ap Gwaithfoed ![]() |
Plant | Caradog ab Iestyn, Nest ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Catrin ferch Iestyn ap Gwrgan, Madog ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel of Rhuthion, Gruffudd ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Gwenllian ferch Iestyn ap Gwrgan ab Ithel, Rhydderch ab Iestyn ap Gwrgan of Iestyntown, Rhys ab Iestyn ap Gwrgan ab Ithel of Resolfen ![]() |
Daeth Morgannwg o dan ei feddiant yn sgil marwolaeth Caradog ap Gruffudd ym Mrwydr Mynydd Carn yn 1081. Teyrnasodd am ddegawd neu ddau'n unig a chipwyd Morgannwg oddi wrtho gan Robert Fitz Hammo yn y 1090au pan syrthiodd Iestyn mewn brwydr yn erbyn y Normaniaid yn ardal Rhiwbeina (rhan o ddinas Caerdydd heddiw). Wedi'i farwolaeth daeth yr enw 'Iestyn' yn enw poblogaidd drwy Forgannwg a thu hwnt.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwyddoniadur Cymru. Gwasg Prifysgol Cymru. 2008.