Castell Lewes
Castell canoloesol yn nhref Lewes, Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, yw Castell Lewes.[1] Saif ar uchelfan sy'n gwarchod y bwlch yn y Twyni Deheuol a dorrir gan Afon Ouse. Mae'n tremio dros y dref. Fe'i hadeiladwyd o galchfaen lleol a blociau fflint.
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Ardal weinyddol | Lewes |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | South Downs National Park |
Sir | Dwyrain Sussex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.8728°N 0.007247°E |
Cod OS | TQ4132710068 |
Cod post | BN7 1YE |
Perchnogaeth | William de Warenne, Iarll 1af Surrey |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Mae'r castell yn cydymffurfio â chynllun mwnt a beili ond, yn anarferol, mae ganddo ddau fwnt. Yr unig gastell arall yn Lloegr sydd â dau fwnt yw Castell Lincoln.
Mae’r castell yn cael ei weinyddu gan y Sussex Archaeological Society, ac mae'n heneb gofrestredig.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Lewes Castle" Archifwyd 2021-10-03 yn y Peiriant Wayback; CastlesFortsBattles.co.uk; adalwyd 29 Awst 2022
- ↑ "Lewes Castle", Historic England; adalwyd 29 Awst 2022
Dolen allanol
golygu- "Lewes Castle & Museum", Sussex Past (gwefan Sussex Archaeological Society)