Castell Llanfleiddan
castell rhestredig Gradd II* yn Y Bont-faen a Llanfleiddan
Lleolir Castell Llanfleiddan (hefyd Castell Sain Quentin)[1] ym mhentref Llanfleiddan ym Mro Morgannwg. Mae'r enw amgen yn cyfeirio at y teulu St Quintin a oedd yn trigo yno cyn 1233.[2] Cyn adeiladu'r gorthwr yn y 12g safai bryngaer hynafol o'r enw Caer Dynnaf ar y safle.[3] Adeiladwyd y porthdy gan Gilbert III de Clare, mae'n debyg ym 1312, ond ni orffennwyd hyn oherwydd i Gilbert farw ym Mrwydr Bannockburn ym 1314. Mae'n debyg o ran arddull i borthdy Castell Caerffili, a godwyd gan Gilbert II de Clare, a phorthdy Llys yr Esgob yn Llandaf.[2] Mae'r castell bellach yng ngofal Cadw.[1]
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfleiddan |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 45 metr |
Cyfesurynnau | 51.4575°N 3.45639°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM094 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Castell Sain Quentin, Llanfleiddan. Cadw. Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2015.
- ↑ 2.0 2.1 Newman, John (1995). Glamorgan, The Buildings of Wales. Llundain: Penguin, tud. 372
- ↑ (Saesneg) Llanblethian Castle. Castles of Wales. Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2015.