Agor y brif ddewislen

Un o faesdrefi a chymuned yn ninas Caerdydd yn ne Cymru yw Llandaf ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Cafodd ei ymgorffori yn y ddinas ym 1922. Mae hefyd yn rhoi ei henw i un o esgobaethau'r Eglwys yng Nghymru, a fu yn hanesyddol gyda'r rhai tlotaf yng Nghymru a Lloegr, ond sydd erbyn hyn yn cwmpasu'r ardal fwyaf poblog yn ne Cymru. Dominyddir Llandaf gan yr Eglwys Gadeiriol, a gerllaw mae adfeilion Llys yr Esgob, a'i dinistriwyd gan Owain Glyndŵr.

Ymhlith yr enwogion a enwyd yno y mae'r awdur Roald Dahl a'r gantores Charlotte Church; cawsant hefyd eu haddysgu yn ysgolion bonedd Llandaf. Mae pencadlys y BBC yng Nghymru yn Llandaf. Gwasanaethir yr ardal gan orsaf trenau Llandaf, sydd mewn gwirionedd yn ardal Ystum Taf.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llandaf (pob oed) (8,997)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llandaf) (1,337)
  
15.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llandaf) (6464)
  
71.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llandaf) (1,150)
  
30.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Y GymraegGolygu

Yng nghyfrifiad 2011 nodwyd bod 15.3% o'r boblogaeth dros dair blwydd oed yn medru'r Gymraeg, sef 1337 o bobl. Roedd hyn yn gwymp bach ar ffigyrau cyfrifiad 2001, sef 15.4%.[5]

Mae pencadlys BBC Cymru ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ymysg y sefydliadau Cymraeg pwysig yn y ward.

Mae ymchwil Owen John Thomas yn dangos cryfder y Gymraeg yn Llandaf yn hanesyddol. Yn ôl ei lyfr Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800–1914, roedd Eglwys anghydffurfiol yn Heol Caerdydd yn Gymraeg ei hiaith yn 1813.

Mae ei waith yn dangos mai Cymraeg oedd iaith arferol y stryd yn Llandaf yn y 17eg canrif.[angen ffynhonnell]

HanesGolygu

Ymwelodd Gerallt Gymro â Llandaf yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Tsunami 1607Golygu

Y drasiedi fwyaf a ddioddefodd Gwastadeddau Gwent a'r cyffiniau oedd llif enfawr 20 Ionawr 1607. (Ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg, y cyntaf o Fawrth oedd diwrnod cyntaf y flwyddyn, ac felly ar y pryd, ystyrid mai ym mis olaf ond un 1606, ac nid ym mis cyntaf 1607, y bu’r llif).[6]

Mistress Mathews of Llandaffe dwelling some foure miles from the sea is said to have lost foure hundred English ewes. Much corne is likewise there destroyed in that country, many houses ruinated and many other kind of cattle perished so violent and swift were the outrageous waves that in less than five hours space most parts of those countreys (especially the places which lay lowe) were all overflown and many hundreds of people, both men & women and children were then quite devoured by the outrageous waters. A great part of the church next the waterside beaten down with water [Eglwys Santes Fair a roes yr enw i St Mary’s Street heddiw, ond ni fu eglwys yno ar ôl hynny].[7]

Boddwyd ardal o Barnstaple, Bryste, i Gaerloyw, mor bell â Cheredigion. Boddwyd Gwastadeddau Gwent, gan ladd 2000, gan yr ymchwydd.[8]

OrielGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
  5. Comisiynydd y Gymraeg: Cyfrifiad 2011: canlyniadau yn ôl Cymuned; gwelwyd 24 Ionawr 2015.
  6. Cymru - Y 100 lle i’w gweld cyn marw” gan John Davies, 2009 (lluniau Marian Delyth)
  7. Arddangosfa Bae Caerdydd 2008
  8. Woodward A. & Penn R. , The Wrong Kind of Snow* (Hodder & Stoughton)
    • Dyfynnwyd 30 Ion 1607 yn y gyfrol hon ond cymerir mai camgymeriad ydyw. Ni chafwyd ateb gan y cyhoeddwyr ynglyn â’r mater.

Gweler hefydGolygu