Castell Morlais
Castell o'r 13g yw Castell Morlais, wedi'i leoli uwch dyffryn Taf ger tref Merthyr Tudful yng Nghymru.
Olion Castell Morlais | |
Math | castell, caer lefal |
---|---|
Cysylltir gyda | Madog ap Llywelyn |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7768°N 3.3789°W |
Cod OS | SO05000950 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM028 |
Ychydig sy'n weddill o'r castell a godwyd gan Gilbert de Clare, 3ydd Iarll Caerloyw. Cipiwyd y castell gan Madog ap Llywelyn ym 1294. Credir na chafodd y castell erioed ei gwblhau, gan ei fod yn rhy anghysbell i neb fyw ynddo.
Disgrifiad
golyguRoedd gan y castell ward fewnol drionglog, gydag ochrau tua 45m o hyd, a beili tua 60m o led. Roedd gorthwr crwn tua 17m mewn diamedr yn y gornel ogleddol, gyda tŵr siâp D gyda grisiau yn y gornel dde-ddwyreiniol, a thŵr tebyg ar y wal ddeheuol. Rhwng y ddau hyn roedd y porthdy. Mae pydew dwfn o flaen y tŵr deheuol - y seston mae'n debyg. Does dim tŵr yn yr ochr orllewinol, ond mae tŵr siâp D yn y gornel dde-ddwyreiniol.Ychydig o'r castell sydd ar ôl heddiw, gydag un ystafell yn weddill ar waelod y gorthwr. Mae waliau isel o gwmpas y castell yn rhoi gwell syniad i ni o lle safai. Mae'r ffos yn ymestyn o gwmpas y castell, er bod un ochr wedi diflannu - oherwydd y chwarel galch fu yno unwaith, efallai. Mae cwrs golff 18 twll Castell Morlais i'r dwyrain o'r castell.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Castles of Wales: Morlais Castle
- Old Merthyr Tydfil: Morlais Castle - Lluniau Hanesyddol o gastell Morlais.
- Clwb Golff Castell Morlais
- Morlais Castle at Wales.red Archifwyd 2018-09-03 yn y Peiriant Wayback - Lluniau panorama o Gastell Morlais a'r Crypt o dan y Gorthwr