Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr
Castell Normanaidd yn ne Cymru yw'r Castell Newydd, a godwyd ar fryncyn uwchlaw Pen-y-bont ar Ogwr yn Ne Cymru. I'r Gogledd-orllewin, roedd arglwyddiaeth Gymreig Afan ac un o'r rhesymau dros godi'r castell oedd gwarchod y ffin a cheisio rheoli arglwyddi Afan. Adeilion sydd yno, bellach.
| |
Math |
castell, castell ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Pen y Bont ![]() |
Sir |
Pen-y-bont ar Ogwr, Pen-y-bont ar Ogwr ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.508861°N 3.583252°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Carwyn Jones (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Statws treftadaeth |
adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Carwyn Jones (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[1][2]
HanesGolygu
Codwyd y castell yn 1106 gan y barwn Normanaidd Robert Fitzhamon ar ran William de Londres a'r castell hwn yw'r fan mwyaf gorllewinol yn ei ymgais i oresgyn De Cymru. Mae'n un o dri chastell yn yr ardal yr adeg hon ynghyd a Chastel Coety a Chastell Ogwr. Yn 1189 trosglwyddwyd perchnogaeth y castell i Morgan ap Caradog ac yna yn c1208, i'w fab Lleison.[3] Ar farwolaeth Lleision (tua 1214) trosglwyddwyd y castell i feddiant Isabel, gwraig cyntaf Brenin Ioan o Loegr.[4] Yn 1217 aeth i ddwylo Gilbert Fitz Richard ac yn yr un flwyddyn fe'i trosgwyddwyd i Gilbert de Turberville.
Dros y canrifoedd, bu perchnogaeth y castell yn nwylo'r teuluoedd Berkerolle, Gamage ac yna fe'i prynnwyd gan Samuel Edwin o "Lanmihangel Place" ac yna'n rhan o Ystâd Dunraven.
Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Morgan ap Caradog ap Iestyn". llgc.org.uk. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
- ↑ Salter (2002), tud.88