Castell Pictwn

castell rhestredig Gradd I yn Uzmaston a Boulston

Castell yng nghymuned Uzmaston, Boulston a Slebets ger Hwlffordd, Sir Benfro, yw Castell Pictwn (Saesneg: Picton Castle).

Castell Pictwn
Engrafiad o Gastell Pictwn, tua 1830
Mathcastell, plasty gwledig, amgueddfa Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr39.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7841°N 4.88538°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN0107613430 Edit this on Wikidata
Cod postSA62 4AS Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethTeulu Wogan, Owain Dwnn, Teulu Philipps, John Philipps Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Codwyd y castell gwreiddiol ar ddiwedd y 13g gan Syr John Wogan ac mae'n dal i gael ei ddefnyddio gan ei ddisgynyddion, y teulu Philipps.

Erbyn heddiw mae'r castell yng ngofal Ymddiriedolaeth Castell Pictwn (Picton Castle Trust). Mae wedi cael ei adnewyddu yn sylweddol sawl gwaith, yn 1697 gan Syr John Philipps (un o sylfaenwyr y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol) ac yn 1749-52 hefyd, ond mae'n cadw llawer o'r nodweddion canoloesol gyda ffenestri mawr wedi'u gosod yn y muriau allanol gwreiddiol.

Castell Pictwn heddiw.

Enwir y barc Cymreig Picton Castle (a ddefnyddir yng Nghanada fel llong hwyliau i hyfforddi morwyr ifainc) ar ôl y castell.

Mae gan y castell dros 40 erw (160,000 m2) o erddi sy'n agored i'r cyhoedd.

Yn 2006, dechreuwyd adeiladu pentref gwyliau 'Bluestones' yma. Bu llawer o brotestion ynghylch y cynllun, gan fod rhan o'r safle ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Dolen allanol

golygu