Teulu Philipps, De Cymru

teulu o Picton, sir Benfro

Teulu o dirfeddianwyr o Dde Cymru oedd y teulu Philipps (neu Philips) a gellir eu holrhain yn ôl at briodas (yn 1490) Thomas Philipps o Gilsant a Joan, aeres y Dwnniaid o Gydweli a'r Woganiaid o Gas-wis. Fe wnaethant elwa'n fawr o gwymp Rhys ap Thomas gan gasglu tiroedd yma ac acw o genhedlaeth o genhedlaeth. Yng Nghastell Pictwn roedd eu cartref am flynyddoedd, ond roedd eu dylanwad yn fawr mewn llefydd mor bell a Henffordd. Rhoddwyd barwnigiaeth i'r teulu yn 1621.[1]

Erbyn 1873 roedd y teulu'n berchen ar 5,176 hectar o dir yn Sir Benfro.

Rhai aelodau o'r teulu

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Gwyddoniadur Cymraeg]]; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008.