Castell Prestatyn

Castell mwnt a beili ger Prestatyn, Sir Ddinbych yw Castell Prestatyn. Mae'n dyddio o'r 12g. Dim ond y mwnt ac olion eraill sydd i'w gweld ar y safle heddiw.

Castell Prestatyn
Mathcastell, castell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.338328°N 3.394245°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwFL024 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

 
Safle Castell Prestatyn heddiw

Yn ôl pob tebyg, codwyd y castell gan Robert de Banastre, un o'r arglwyddi Normanaidd, tua'r flwyddyn 1164. Dyma'r cyfnod pan fu cwmwd Prestatyn a gweddill cantref Tegeingl yn nwylo arglwyddi Normanaidd y Mers. Er ei fod ar dir isel, roedd y castell yn rheoli'r mynediad ar hyd yr arfordir i gyfeiriad Rhuddlan, a oedd yn borthladd pwysig yn yr Oesoedd Canol. Cafodd ei gipio a'i ddifetha gan y Brenin Owain Gwynedd yn 1167 wrth iddo adfer y Berfeddwlad i Wynedd.[1]

Arosodd yr ardal ym meddiant brenhinoedd a thywysogion Gwynedd a chofnodir fod Roger de Banastre arall, un o ddisgynyddion y llall, wedi hel ei bac "gyda'i bobl i gyd" o Brestatyn i Swydd Gaerhirfryn yn Lloegr. Yn 1279, pan fu cwmwd Prestatyn ym meddiant coron Lloegr eto, cofnodwyd fod rhan o'r hen gastell yn dal i sefyll. Ar ôl hynny mae'n diflannu o dudalennau hanes.[1]

Olion golygu

Dim ond y mwnt ac olion eraill sydd i'w gweld ar y safle heddiw. Mae gweddillion y mwnt yn mesur tua 20 medr ar draws a cheir olion ffos a'r beili tu mewn iddi. Roedd mur o gerrig 1.2 medr o led o fewn y ffos, yn ôl archaeolegwyr a gloddiodd y safle yn 1913. Am ei fod ar dir isel, codwyd sarn i gyrraedd y fynedfa, ond prin yw'r olion gweladwy ohono heddiw.[1]

Mynediant golygu

Gorwedd y castell mewn cae tua hanner milltir i'r gogledd o orsaf reilffordd Prestatyn. Cyfeirnod OS: SJ072833.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Helen Burnham, A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys (HMSO, 1995), tt. 132-33.