Castell Ystrad Peithyll
Un o gestyll y Normaniaid yng Nghymru oedd Castell Ystrad Peithyll neu Castell Peithyll. Lleolir ei adfeilion mewn coedwig ger Capel Dewi, tua 6 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, Ceredigion.[1]
Math | castell, mwnt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.423214°N 3.98205°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CD098 |
Codwyd y castell mwnt a beili hwn ar lan afon Peithyll, un o ledneintiau afon Clarach, yn y flwyddyn 1110 neu'n fuan ar ôl hynny wrth i'r arglwydd Normanaidd Gilbert Fitz Richard (un o sawl a elwir yn Gilbert de Clare hefyd) oresgyn rhan helaeth o Geredigion.[2]
Yn 1114, pan fu gŵr o'r enw Ralph (neu Rargo) yn gwnstabl y castell, ymosodwyd arno gan y tywysog Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth. Cofnodir y digwyddiad ym Mrut y Tywysogion:
- A chylchynu a orugant gastell Rawlf, swyddwr Gilbert a oedd yn y lle a elwir Ystrad Pychyll (Ystrad Peithyll) ac ymladd ag ef a gorfod arno a lladd llawer ynddo a'i losgi ynteu o hyd nos.[3]
Rywbryd ar ôl hynny rhaid bod y castell wedi cael ei ailadeiladu oherwydd cofnodir iddo gael ei losgi yn 1136 gan Owain ap Gruffudd a'i frawd Cadwaladr.[4] Ciliodd y Normaniaid o Geredigion am gyfnod hir ar ôl ymgyrch y tywysogion hynny.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lleoliad y castell ar y map Arolwg Ordnans[dolen marw]
- ↑ R. R. Davies, The Age of Conquest (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 39.
- ↑ Brut y Tywysogyon. Peniarth MS 20, gol. Thomas Jones (Caerdydd, 1941), tud. 69a. Diweddariad.
- ↑ Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Gwasg Carreg Gwalch, 1991), tud. 26.