Brut y Tywysogion
Mae Brut y Tywysogyon (Brut y Tywysogion) yn gronicl Cymreig canoloesol sy'n un o'r ffynonellau pwysicaf ar gyfer hanes Cymru yn yr Oesoedd Canol.
Brawddegau agoriadol Brut y Tywysogion, yn fersiwn Llyfr Coch Hergest | |
Enghraifft o'r canlynol | cronicl, gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
- Gweler hefyd Brut (gwahaniaethu)
Cronicl yw Brut y Tywysogion, sydd i bob golwg wedi ei fwriadu fel ymestyniad o Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy. Mae wedi goroesi fel nifer o gyfieithiadau i'r Gymraeg o fersiwn gwreiddiol yn Lladin. Nid oes un testun Lladin o Frut y Tywysogion ei hun wedi goroesi, ond ceir dau destun anghyflawn o gronicl Lladin am y cyfnod 1190-1285 yn y llawysgrif Exeter Cathedral Library MS. 3514 a gedwir yn Eglwys Gadeiriol Exeter; gelwir y testun helaethaf Cronica de Wallia a gellid ei ystyried yn bont rhwng yr Annales Cambriae a'r testunau Lladin coll o'r Brut. Y fersiynau pwysicaf o Frut y Tywysogion yw'r rhai yn Peniarth MS. 20 ac un ychydig llai cyflawn yn Llyfr Coch Hergest. Mae'r fersiwn dan y teitl "Brenhinedd y Saeson" yn gyfuniad o'r deunydd yma a deunydd o ffynhonnell Seisnig.
Dechreua fersiwn Peniarth MS. 20 yn 681 pan gofnodir marwolaeth Cadwaladr a daw i ben yn 1332. Byr iawn yw'r cofnodion am y blynyddoedd cynnar, fel rheol cofnod o farwolaethau a digwyddiadau megis diffygion ar yr haul, pla neu ddaeargrynfeydd, ond mae llawer mwy o fanylion yn y cofnodion diweddarach. Rhoir sylw yn bennaf i frenhinoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ond cofnodir digwyddiadau eglwysig, er enghraifft pan ddaeth yr egwys yng Nghymru i ddefnyddio'r un dull o benderfynu ar ddyddiad y Pasg ag eglwys Rhufain dan berswâd "Elbodius" (Elfodd), Esgob Bangor, yn 768. Mae digwyddiadau yn Lloegr, Iwerddon, Yr Alban ac weithiau Ffrainc yn cael eu cofnodi'n fyr hefyd.
Credir fod y cronicl mynachaidd gwreiddiol wedi ei ysgrifennu yn Abaty Ystrad Fflur, ond ymddengys ei fod wedi ei gadw yn yr hen abaty yn Llanbadarn yn yr 11g. Defnyddiwyd croniclau o abatai eraill yn y gwaith hefyd. Credir bod o leiaf un o'r cyfieithiadau Cymraeg wedi ei wneud yn Ystrad Fflur hefyd.
Darllen pellach
golygu- John Edward Lloyd, The Welsh Chronicles (London: H. Milford, 1929)
- Ian R. Jack, Medieval Wales (Ithaca: Cornell University Press, 1972)
- Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogion: Red Book of Hergest Version (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1973)
- Thomas Jones (gol.), Brut y Tywysogyon: Peniarth MS. 20 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1941)
- Thomas Jones (gol.), Cronica de Wallia and other documents from Exeter Cathedral Library MS. 3514 (ail-brintiwyd o The Bulletin of the Board of Celtic Studies, Caerdydd, 1946)