Catherine Cookson
Awdur toreithiog o Loegr oedd Catherine Cookson (27 Mehefin 1906 - 11 Mehefin 1998).
Catherine Cookson | |
---|---|
Ffugenw | Catherine Marchant, Katie McMullen, Catherine Cookson |
Ganwyd | Catherine Ann Davies 20 Mehefin 1906 South Shields, Tyne Dock |
Bu farw | 11 Mehefin 1998 Newcastle upon Tyne |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | nofelydd, ysgrifennwr |
Arddull | nofel ramant |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Ganed Catherine Ann McMullen yn South Shields, Tyne a Wear, a bu farw yn Newcastle upon Tyne.[1][2][3][4]
Yn 2019 roedd yn yr 20 nofelydd mwyaf poblogaidd gwledydd Prydain gyda dros 100 miliwn o'i llyfrau wedi'u gweerthu. Ysbrydolwyd ei llyfrau gan ei hieuenctid difreintiedig yn Ne Tyneside, Gogledd Ddwyrain Lloegr (Swydd Durham yr adeg honno), y lleoliad ar gyfer ei nofelau. Gyda mwy na 103 o deitlau wedi'u hysgrifennu yn ei henw ei hun neu ddau enw arall (gweler Llyfryddiaeth isod), hi yw un o'r nofelwyr mwyaf toreithiog o Loegr.[5]
Plentyndod
golyguYn blentyn, fe'i gelwid yn "Kate". Symudodd i ddwyrain Jarrow, Swydd Durham, lleoliad poblogaidd yn ei nofelau diweddarach, yn enwedig The Fifteen Streets. Yn blentyn anghyfreithlon i alcoholig o'r enw Kate Fawcett, cafodd ei magu yn meddwl mai ei chwaer oedd ei mam ddi-briod, gan iddi gael ei magu gan ei mam-gu a'i thad-cu, Rose a John McMullen. Olrheiniodd y bywgraffydd Kathleen Jones ei thad, a'i enw oedd Alexander Davies, merchetwr a gamblwr o Swydd Lanark.[6][7]
Gadawodd yr ysgol yn 14 oed ac, ar ôl cyfnod o wasanaeth domestig, cymerodd swydd yn golchi dillad yn "Harton Workhouse" yn South Shields. Ym 1929, symudodd i'r de i redeg y golchdy yn "Hastings Workhouse", gan arbed pob ceiniog i brynu tŷ Fictoraidd mawr, gan gymryd lletywyr i ychwanegu at ei hincwm.[7] [8]
Ym Mehefin 1940, yn 34 oed, priododd â Tom Cookson, athro yn Ysgol Ramadeg Hastings. Ar ôl colli pedwar plentyn, tra'n feichiog, darganfuwyd ei bod yn dioddef o glefyd fasgwlaidd prin, sef telangiectasia, sy'n achosi gwaedu o'r trwyn, y bysedd a'r stumog ac yn arwain at anemia. Dilynwyd yr erthyliadau hyn gan afiechyd meddwl dwys a barodd am ddegawd.[5][7][9]
Dechreuodd ysgrifennu fel math o therapi i fynd i'r afael â'i hiselder, ac ymunodd â Grŵp Awduron Hastings.
Yr awdures
golyguCyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Kate Hannigan, yn 1950. Er i'w nofelau gael ei labelu fel "rhamant", mynegodd anfodlonrwydd gyda'r stereoteip hwn a dywedodd mai nofelau hanesyddol am bobl ac amodau roedd hi'n eu hadnabod oedd ei llyfrau.
Cyfieithwyd ei nofelau i o leiaf 20 iaith. Ysgrifennodd hefyd lyfrau dan y ffugenwau Catherine Marchant, gyda'r enw'n deillio o'i henw plentyndod, Katie McMullen. Parhaodd i fod yr awdur mwyaf poblogaidd (o ran benthyg o lyfrgelloedd cyhoeddus yn y DU) am 17 mlynedd, hyd at bedair blynedd ar ôl ei marwolaeth, gan golli'r safle cyntaf i Jacqueline Wilson yn 2002.[10]
Bibliography
golyguDan yr enw Catherine Cookson
golygu- The Fifteen Streets (1952)
- Colour Blind (1953)
- Maggie Rowan (1954)
- Rooney (1957)
- The Menagerie (1958)
- Fanny McBride (1959)
- Fenwick Houses (1960)
- The Garment (1962)
- The Blind Miller (1963)
- The Wingless Bird (1964)
- Hannah Massey (1964)
- The Mists of Memory (1965)
- The Long Corridor (1965)
- Matty Doolin (1965)
- The Unbaited Trap (1966)
- Slinky Jane (1967)
- Katie Mulholland (1967)
- The Round Tower (1968)
- The Nice Bloke (1969) aka The Husband (1969)
- The Glass Virgin (1969)
- The Invitation (1970)
- The Dwelling Place (1971)
- Feathers in the Fire (1971)
- Pure as the Lily (1972)
- The Invisible Cord (1975)
- The Gambling Man (1975)
- The Tide of Life (1976)
- The Girl (1977)
- The Cinder Path (1978)
- The Man Who Cried (1979)
- The Whip (1983) aka The Spaniard's Gift (1989)
- The Black Velvet Gown (1984)
- The Bannaman Legacy (1985) aka A Dinner of Herbs (1985)
- The Moth (1986) a.k.a. The Thorman Inheritance (1989)
- The Parson's Daughter (1987)
- The Harrogate Secret (1988) aka The Secret
- The Cultured Handmaiden (1988)
- The Spaniard's Gift (1989) aka The Whip (1983)
- The Black Candle (1989)
- The Thorman Inheritance (1989) aka The Moth (1986)
- The Gillyvors (1990) aka The Love Child (1991)
- My Beloved Son (1991)
- The Rag Nymph (1991) aka The Forester Girl (1993)
- The House of Women (1992)
- The Maltese Angel (1992)
- The Golden Straw (1993)
- The Forester Girl (1993) aka The Rag Nymph (1991)
- The Year of the Virgins (1993)
- The Tinker's Girl (1994)
- Justice Is a Woman (1994)
- A Ruthless Need (1995)
- The Bonny Dawn (1996)
- The Branded Man (1996)
- The Lady on my Left (1997)
- The Obsession (1997)
- The Upstart (1998)
- The Blind Years (1998)
- Riley (1998)
- Solace of Sin (1998)
- The Desert Crop (1999)
- The Thursday Friend (1999)
- My Land of the North (1999)
- A House Divided (2000)
- Rosie of the River (2000)
- The Simple Soul and Other Stories (2001)
- Silent Lady (2002)
Cyfres Kate Hannigan
golygu- Kate Hannigan (1950)
- Kate Hannigan's Girl (2001)
Storiau Mary Ann
golygu- A Grand Man (1954)
- The Lord and Mary Ann (1956)
- The Devil and Mary Ann (1958)
- Love and Mary Ann (1961)
- Life and Mary Ann (1962)
- Marriage and Mary Ann (1964)
- Mary Ann's Angels (1965)
- Mary Ann and Bill (1967)
Nofelau Mallen
golygu- The Mallen Streak (1973)
- The Mallen Girl (1974)
- The Mallen Litter (1974)
Trioleg Tilly Trotter
golygu- Tilly Trotter aka Tilly (1980)
- Tilly Trotter Wed aka Tilly Wed (1981)
- Tilly Trotter Widowed aka Tilly Alone (1982)
Cyfres Hamilton
golygu- Hamilton (1983)
- Goodbye Hamilton (1984)
- Harold (1985)
TriolegThe Bill Bailey
golygu- Bill Bailey (1986)
- Bill Bailey's Lot (1987) aka Bill Bailey's Litter
- Bill Bailey's Daughter (1988)
- The Bondage of Love (1997)
Storiau i blant
golygu- Joe and the Gladiator (1968)
- The Nipper (1970)
- Blue Baccy (1972) aka Rory's Fortune (1988)
- Our John Willie (1974)
- Mrs Flannagan's Trumpet (1976)
- Go Tell It to Mrs Golightly (1977)
- Lanky Jones (1981)
- Nancy Nutall and the Mongrel (1982)
- Rory's Fortune (1988) aka Blue Baccy (1972)
- Bill and The Mary Ann Shaughnessy (1991)
Bywgraffiadau
golygu- Our Kate (1969)
- Catherine Cookson Country (1986) aka My Land of the North (1999)
- Let Me Make Myself Plain (1988)
- Plainer Still (1995)
- Just A Saying (2002)
Dan yr enw Catherine Marchant
golygu- Heritage of Folly (1961) aka Heritage of Folly (1961)
- The Fen Tiger (1963) aka The House on the Fens (1963)
- House of Men (1963)
- The Mists of Memory (1965) aka The Lady on my Left (1997)
- The Iron Facade (1965) aka Evil at Rodgers Cross (1965)
- Miss Martha Mary Crawford (1975)
- The Slow Awakening (1976)
Dan yr enw Katie McMullen
golygu- Heritage of Folly (1961) aka Heritage of Folly (1961)
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118975834. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118975834. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Remnants_of_Cookson_Country_-_geograph.org.uk_-_76883.jpg. Oxford Dictionary of National Biography. "Catherine Cookson". The Times. rhifyn: 66266. tudalen: 27. dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 1998. https://www.familysearch.org/ark:/61903/1:1:QVZ6-599Z.
- ↑ Dyddiad marw: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2015. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb118975834. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Catherine Cookson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Catherine Cookson". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 5.0 5.1 bbc.co.uk; adalwyd 13 Mehefin 2019
- ↑ "Catherine Cookson". www.visitsouthtyneside.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-16. Cyrchwyd 15 Ionawr 2018.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 shieldsgazette.com; Archifwyd 2018-06-29 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Mehefin 2019
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Jr, Robert McG Thomas (12 Mehefin 1998). "Catherine Cookson, 91, Prolific British Author". Cyrchwyd 15 Ionawr 2018 – drwy NYTimes.com.
- ↑ "Public Lending Right" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-03-30. Cyrchwyd 15 Ionawr 2018.