Catherine Osler
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Catherine Osler (26 Chwefror 1854 - 16 Rhagfyr 1924) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel diwygiwr cymdeithasol ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Catherine Osler | |
---|---|
Ganwyd | 26 Chwefror 1854 Bridgwater |
Bu farw | 16 Rhagfyr 1924 Edgbaston |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | diwygiwr cymdeithasol, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét |
Magwraeth
golyguGaned Catherine Courtauld Taylor yn Bridgwater ar 26 Chwefror 1854 a bu farw yn Edgbaston. Undodwyr oedd ei rhieni: William a Catherine Taylor, ac roeddent hefyd yn aelodau o Gymdeithas Etholfraint y Merched, Birmingham (Birmingham Women's Suffrage Society), ers ei sefydlu. Catherine oedd eu merch hynaf ac etholwyd hi'n swyddog o'r gymdeithas, yn drysorydd ac yn 1885 fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd.[1][2][3][4]
Priododd Alfred Osler a oedd yn rhedeg cwmni teuluol F & C Osler o Birmingham, cwmni a oedd yn enwog am ddylunio a chynhyrchu crisial cain a'r darnau godidog hynny sy'n hongian ar chandeliers; gwerthwyd hwy i bob rhan o'r byd. Roedd Alfred Osler yn aelod o'r Rhyddfrydwyr.
Ymgyrchydd dros hawliau menywod
golyguYn 1888 cynhaliodd Ffederasiwn Ryddfrydol y Merched gynhadledd yn Birmingham a gofynnwyd i Catherine Osler lywyddu drosti.[5] Yn 1903, etholwyd hi'n Llywydd Cymdeithas Etholfraint y Merched, Birmingham.[6] Bedair blynedd yn ddiweddarach cyfarfu'r Emancipation Union yn Birmingham a gwahoddwyd Osler i gadeirio sesiwn lle rhannodd ei huchelgais i gael menywod i gymryd rhan mewn llywodraeth leol.
Gwrthwynebai gweithredoedd treisgar, milwriaethus rhai aelodau o fudiad y swffragét ac ysgrifennodd yn feirniadol iawn o weithredoedd rhai o aelodau o Undeb Gwleidyddol a Chymdeithasol y Merched (the Women's Social and Political Union). Er hyn, ni chytunodd a'r modd treisgar y deiliwyd gyda charcharorion benywaidd.[5] Yn wir, yn 1909, oherwydd polisi'r llywodraeth Ryddfrydol o orfodi merched oedd ar ympryd i fwyta, ymddiswyddodd fel llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y Merched, Birmingham.[4]
Yn 1911, ymunodd Osler gyda Phwyllgor Gweithredol Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint y Merched (NUWSS).[3]
Anrhydeddau
golyguYn 1919, fel gwerthfawrogiad o'i gwaith dros ferched, derbyniodd radd Meistr gan Brifysgol Birmingham. Comisiynwyd, hefyd, darlun olew ohoni gan Edward S. Harper.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ Dyddiad marw: Colin Matthew, ed. (2004) (yn en), Oxford Dictionary of National Biography, Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, Wikidata Q17565097, https://www.oxforddnb.com/
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Elizabeth Crawford, ‘Osler, Catherine Courtauld (1854–1924)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2013 accessed 20 Tachwedd 2017
- ↑ 4.0 4.1 "Catherine Osler | Great British - bringing you closer to our history makers". great-british.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-12. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.
- ↑ 5.0 5.1 "Catherine Osler". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.
- ↑ "Suffrage Stories: 'From Frederick Street to Winson Green': The Birmingham Women's Suffrage Campaign". Woman and her Sphere (yn Saesneg). 22 Mawrth 2013. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2017.