Grisial
Deunydd soled lle mae'r atomau a'r moleciwlau wedi'u gosod mewn haenau trefnus i greu strwythur microsgopig yw grisial neu crisial (enw gwrywaidd). Mae'r haenau hyn wedi'u cyplysu i ffurfio dellt sy'n ymestyn i bob cyfeiriad.[1][2] Gellir adnabod math unigol o risial yn aml oherwydd ei siâp geometrig e.e. diamwnt, halen neu bluen eira. Gelwir yr astudiaeth o grisialau, y mathau a'u ffurfiad, yn grisialeg.
Math | solid, sylwedd cemegol, cyflwr rhwym |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw'r gair grisial o'r Hen Roeg κρύσταλλος (krustallos), sef "rhew"[3][4][5]. Fe'i ceir yng ngwaith Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi (Grwowndwal a grisial holl gred) yn y 15g.[6]
Ceir amrywiaeth eang o grisialau, gan gynnwys y cewri uchod (diamwnt, halen), ond mae'r rhan fwyaf o grisialau anorganaidd yn glwstwr o grisialau (sef 'amlgrisial'), yn hytrach nag yn un grisial mawr e.e. llawer o greigiau, metalau a rhew. Ceir trydydd grŵp o solidau sef y rhai di-ffurf, amorffaidd, lle nad oes gan yr atomau unrhyw ffurf bendant e.e. gwydr, cwyr a sawl math o blastig.
Ar wahân i'r byd gwyddonol, defnyddir grisialau mewn meddygaeth amgen a defodau crefyddol, e.e. therapi grisial, a gyda gleiniau (sef crisialau i'w gwisgo ac i addurno), mewn swynion o fewn credoau fel Wica.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Stephen Lower. "Chem1 online textbook—States of matter". Cyrchwyd 2016-09-19.
- ↑ Ashcroft and Mermin (1976). Solid state physics.CS1 maint: uses authors parameter (link)
- ↑ κρύσταλλος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus Digital Library
- ↑ κρύος, Henry George Liddell, Robert Scott, A Greek-English Lexicon, on Perseus Digital Library
- ↑ The American Heritage Dictionary of the English Language. Kreus. 2000. https://www.ahdictionary.com/word/search.html?q=crystal&submit.x=0&submit.y=0.
- ↑ grisial. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Awst 2022.
Oriel
golygu-
Grisialau o inswlin
-
Barrug: math arbennig o risial rhew
-
Galiwm, metal sy'n ffurfio grisialau yn eitha hawdd
-
Grisial o apatite (blaen a chanol) ar rhodochroit rhomb (coch), ciwbiau o fflworit (piws), cwarts a chiwbiau llwch o byrit (melynfrown)
-
Grisial o galcopyrit, gyda haen o fornit drosto; maint: 1.5 cm