Gwleidydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Censorius, a elwir yn Cato yr Hynaf (i'w wahaniaethu oddi wrth Marcus Porcius Cato yr Ieuengaf) neu Cato y Censor (234 CC - 149 CC).

Cato yr Hynaf
FfugenwCensorius Edit this on Wikidata
Ganwydc. 234 CC Edit this on Wikidata
Tusculum Edit this on Wikidata
Bu farw149 CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, hanesydd yr hen Rufain, economegydd, bardd, gwleidydd hynafol, Rhufeinig, athronydd, areithydd, hanesydd, milwr Edit this on Wikidata
SwyddCensor, Praetor, quaestor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDe Agri Cultura, Origines Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoloptimates Edit this on Wikidata
TadUnknown Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata
PriodLicinia, Salonia Edit this on Wikidata
PlantMarcus Porcius Cato Licinianus, Marcus Porcius Cato Salonianus Edit this on Wikidata
PerthnasauCato yr Ieuengaf, Gaius Porcius Cato Edit this on Wikidata
LlinachPorcii Catones Edit this on Wikidata

Ganed Cato yn Tusculum; roedd ei dad yn perthyn i ddosbarth cymdeithasol y marchogion (eques). Ymunodd a'r fyddin yn 217 CC, a daeth yn Dribwn Milwrol yn 214 CC. Yn 204 CC, etholwyd ef i swydd Quaestor, yna yn 199 CC yn Aedile. Yn 198, etholwyd ef i swydd Praetor cyn dod yn llywodraethwr Sardinia. Etholwyd ef yn Gonswl yn 195 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl. bu'n arwain byddin yn erbyn gwrthryfelwyr yn Sbaen. Yn 191 CC, bu'n ymladd yn y rhyfel yn erbyn Antiochus III. Yn 184 CC, etholwyd ef i swydd Censor.

Priododd ddwywaith, a chafodd ddau fab, Marcus Porcius Cato Licinianus a Marcus Porcius Cato Salonianus. Roedd yn ddylanwadol iawn yn Senedd Rhufain. Dechreuodd ymgyrch i sicrhau fod dinas Carthago yn cael ei dinistrio, gan ddiweddu pob araith, ar unthyw bwnc, gyda'r geiriau Ceterum censeo, Carthaginem esse delendam (Heblaw hynny, rwy'n credu fod rhaid dinistrio Carthago). Yn 149 CC, yn fuan wedi marwolaeth Cato, aeth Carthago i ryfel yn erbyn Numidia heb ganiatâd Rhufain. Cyhoeddodd Rhufain ryfel ar Carthago, a gyrrwyd byddin Rufeinig dan Scipio Aemilianus yn ei herbyn. Dinistrwyd Carthago ar ddiwedd y rhyfel.