191 CC
blwyddyn
3g CC - 2g CC - 1g CC
240au CC 230 CC 220au CC 210au CC 200au CC - 190au CC - 180au CC 170au CC 170au CC 160au CC 150au CC
196 CC 195 CC 194 CC 193 CC 192 CC - 191 CC - 190 CC 189 CC 188 CC 187 CC 186 CC
Digwyddiadau
golygu- Byddin Gweriniaeth Rhufain dan Manius Acilius Glabrio a Cato yr Hynaf yn gorchfygu byddin yr Ymerodraeth Seleucaidd ym Mrwydr Thermopylae. Gorfodir y brenin Seleucaidd, Antiochus III Mawr, i encilio i Chalcis ar Euboea ac yna i Ephesus.
- Scipio Africanus yn perswadio Senedd Rhufain i barhau'r rhyfel yn erbyn Antiochus III trwy ganiatau iddo ef a'i frawd, Lucius Cornelius Scipio Asiaticus, ddilyn Antiochus i Anatolia.
- Gallia Cisalpina yn dod yn dalaith Rufeinig.
- Carthago yn llwyddo i gasglu'r arian oedd yn ddyledus i Rufain yn ôl y cytundeb heddwch, oedd i'w dalu dros gyfnod o 50 mlynedd yn ôl y cytundeb. Mae Rhufain yn gwrthod derbyn yn arian yn gynnar.
- Arsaces II, brenin Parthia, yn cael ei lofruddio; credir fod hyn ar orchymyn Antiochus III. Olynir ef gan ei gefnder Phriapatius.
Genedigaethau
golyguMarwolaethau
golygu- Arsaces II, brenin Parthia (llofruddiwyd)