Catrin ferch Gruffudd ab Ieuan Fychan
bardd
Mae'n debyg fod Catrin yn ferch i'r bardd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (bl. 16g), ac un gerdd yn unig ganddi a gadwyd, sef awdl i Dduw ac i'r byd – yn Ll.G.C. MS. 722 (155). Mae'n bosib mai eiddo ei chwaer, Alis Wen, ydi'r cywydd a gadwyd yn Cardiff MS. 19(742), Cwrtmawr MS. 14(72), ac Ll.G.C. MS. 6681 (404).
Catrin ferch Gruffudd ab Ieuan Fychan | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Roedd ei thad yn byw ym mhlas Lleweni Fechan, ger Llanelwy a chredir iddi hithau fyw yno hefyd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, cyfrol 2, nodyn.