Alis Wen
prydyddes
Prydyddes (bardd) oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan neu Alis Wen (tua 1520–). Roedd yn ferch i'r bardd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (tua 1485–1553), o'r Llannerch yn Llewenni Fechan ger Llanelwy, a Sioned ferch Rhisiart ab Hywel o Fostyn (bu farw 1540).[1] Roedd ei chwaer, Catrin, hefyd yn brydyddes.[2]
Alis Wen | |
---|---|
Ganwyd | 1520 Cymru, Llanelwy |
Bu farw | 16 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Blodeuodd | 1540 |
Tad | Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan |
Mam | Alis ferch John ab Owain ap John |
Plant | John Lloyd |
Canu
golyguDim ond ychydig o gerddi Alis sydd ar glawr heddiw. Canai ar y mesurau caeth. Cyfansoddodd gyfresi o englynion ar y math o ŵr a fynnai ac am ail briodas ei thad yn ei henaint, a chywydd cymod rhwng Dafydd Llwyd Llydan a Grigor y Moch.
Teulu
golyguPriododd Ddafydd Llwyd ap Rhys o'r Faenol yn nhua 1540. Ei phlant oedd y canlynol:
- John Llwyd (bu farw 1615 ), cofrestrydd esgobaeth Llanelwy
- Thomas Llwyd y Faenol (bu farw 1602)
- William Llwyd, MA, rheithor Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanfechain a Llanwrin, 1590–1600, a chanon yn Llanelwy, 1587–1600
- Edward Llwyd (bu farw 1639), proctor yn Llanelwy.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Jones, Evan David. Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 28 Ionawr 2015.
- ↑ Looker, Ray. Catrin ferch Gruffydd ap Ieuan Fychan. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd ar 28 Ionawr 2015.