Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan

bardd ac uchelwr

Bardd ac uchelwr o ogledd-ddwyrain Cymru oedd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (c.1485-1553). Roedd yn byw ym mhlas Lleweni Fechan, ger Llanelwy.[1] Roedd ei ferch Alis Wen yn brydyddes ar y mesurau caeth hefyd.

Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan
Ganwyd1485 Edit this on Wikidata
Lleweni Edit this on Wikidata
Bu farw1553 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaTudur Aled Edit this on Wikidata
TadIeuan ap Llywelyn Fychan Edit this on Wikidata
MamAnnes ferch Rhys ap Cynwrig ap Robert Edit this on Wikidata
PlantAlis Wen, Anne Gruffudd, Thomas Griffith Edit this on Wikidata

Gwaith llenyddol

golygu

Cymerodd ran fel comisiynydd yn Eisteddfod Caerwys, 1523, gyda Tudur Aled a thri bardd arall. Er ei fod yn feistr llwyr ar y gynghanedd a rheolau Cerdd Dafod, nid oedd yn fardd proffesiynol ond yn ŵr bonheddig a ganai er pleser. Mae'r rhan fwyaf o'i waith yn gerddi serch traddodiadol. Ond canodd ar destunau eraill hefyd, yn cynnwys cerddi gofyn a chanu ar bynciau crefyddol.[1]

Cyfansoddodd farwnad nodedig i'w gyfaill Tudur Aled lle mae'n ei gymharu â beirdd mawr y gorffennol fel Taliesin ac Iolo Goch ac yn canmol ei ddysg.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • J. C. Morrice (gol.), Detholiad o waith Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (Bangor, 1910)

Ceir testun marwnad Gruffudd i Tudur Aled yn:

  • T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, 2 gyfrol (Caerdydd, 1926). Atodiad.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, cyfrol 2, nodyn.
  2. T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled. Atodiad.