Ceartas
Mudiaid iaith yn yr Alban yn ystod yr 1980au cynnar oedd Ceartas (Cyfiawnder), a oedd yn ceisio amlygu statws anghyfartal iaith Gaeleg yr Alban.
Ffurfiwyd y grŵp 1981, yn dilyn methiant Mesur Aelod Preifat yr Aelod Seneddol Donald Stewart i roi'r un statws i'r iaith ag oedd gan yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Fe gwrddodd rhai wedyn, a oedd wedi teithio i Lundain i glywed darllediad y mesur, llawer ohonynt yn fyfyrwyr o Aberdeen, Caeredin a Glasgow, er mwyn trafod ymgrychu di-drais, tacteg a oedd wedi ei ddefnyddio'n barod gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghymru. Bu ffrae dros arwyddion ffyrdd dwyieithog ar Ynys Hir yn y 1970'au ac felly fel dilyniant i hyn aed ati i ddifrodi arwyddion ffyrdd a phaentio'r slogan Ceartas airson na Gàidhlig (Cyfiawnder i Aeleg yr Alban) ar y ffyrdd.