Agor y brif ddewislen

Cymdeithas yr Iaith

cymdeithas i hybu statws y Gymraeg a sefydlwyd yn Awst, 1962.

Hanes ac ymgyrchoedd y GymdeithasGolygu

Sefydlwyd y Gymdeithas ar 4 Awst, 1962 o ran enw yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Roedd darlith radio Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, a ddarlledwyd ar 13 Chwefror yn ysbrydoliaeth i sefydlu'r Gymdeithas.

 
Y brotest gyntaf, ar Bont Trefechan.

Yn Chwefror 1963 gwelwyd y brotest dorfol gyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan, Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor. Sefydlwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas ym Mangor gan Owain Owain yn Hydref 1963 - a oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu unig lais y Gymdeithas, sef Tafod y Ddraig.

Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau di-drais, a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr megis yr arweinydd brwd a'r canwr poblogaidd Dafydd Iwan.

Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth gan gynnwys Deddf Iaith 1967 a chynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus.

Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru.

DarlleduGolygu

 
Un o brotestiadau'r Gymdeithas yn galw am arwyddion ffordd dwyieithog, 1972

Ar ddechrau'r 1970au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg.

Gwrthododd rhai protestwyr â phrynu trwyddedau teledu a bu eraill yn dringo mastiau darlledu ac yn ymyrryd â stiwdios teledu.

Cynyddodd y pwysau ar yr awdurdodau darlledu i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn 1977 sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC.

Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond yn 1979 cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw ei addewid i sefydlu'r fath sianel. Gan hynny, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n dechrau ymprydio oni fyddai'r Llywodraeth yn anrhydeddu ei haddewid. Achosodd y penderfyniad hwn gryn gynnwrf ac ofnid y gallai arwain at ymgyrchu treisgar.

Yn y pen draw ildiodd y Llywodraeth i'r pwysau a chyhoeddwyd ym mis Medi 1980 y darlledid rhaglenni teledu Cymraeg ar y bedwaredd sianel newydd. Lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) yn 1982.

Erbyn heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am drafodaeth agored ar ddyfodol darlledu a'r cyfryngau newydd yn Gymraeg, a sut gellir sicrhau lle blaenllaw i'r Gymraeg yn y datblygiadau hyn.

Ymysg y pynciau maent yn ymgyrchu amdanynt mae:

 
Stamp answyddogol yn dathlu 25ain pen-blwydd y Gymdeithas
  • Y trafodaethau ynglŷn â dyfodol S4C
  • Papur gwyrdd y llywodraeth ar siarter newydd y BBC
  • Effaith diffodd signalau teledu analog o fewn tair blynedd
  • Cyfleoedd newydd radio a theledu lleol
  • Y we a phlatfformau newydd o gyfathrebu
  • Ariannu'r chwyldro digidol yn Gymraeg
  • Hybu'r rhithfro

Ym mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod yr academydd Dr Simon Brooks, llywydd Plaid Cymru - Jill Evans, yn ogystal a'r cerddorion Gai Toms, Bryn Fôn a Dafydd Iwan ymhlith cant o bobl a wrthododd i dalu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[1]

Deddf EiddoGolygu

Cred Cymdeithas yr Iaith fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn dibynnu ar sefydlu dyfodol i gymunedau lleol ym mhob rhan o Gymru. Credant fod polisïau teg ym maes tai a chynllunio yn gwbl hanfodol.

Maent yn galw am i'r awdurdodau sicrhau bod gan bobl y gallu i brynu neu rentu tai yn eu cymunedau, ac i beidio â rhoi caniatâd i ddatblygiadau tai a all niweidio'r gymuned leol, yr iaith Gymraeg neu'r amgylchedd naturiol.

Ar ddechrau 2004, cychwynnodd Cymdeithas yr Iaith ar flwyddyn o ymgyrchu, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo i Gymru.

Ar Fawrth 11 2014, lansiodd aelodau'r mudiad "Bil Eiddo a Chynllunio er budd ein Cymunedau (Cymru)" yn y Senedd ym Mae Caerdydd.

Hawliau i'r GymraegGolygu

 
Poster yn hysbysebu Rali Deddf Iaith Newydd yng Nghaerdydd ym mis Hydref 2005.

Ar ddechrau yr 21g, galwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am Ddeddf Iaith Newydd i Gymru, a fyddai'n ateb anghenion y Gymraeg yn yr oes fodern ac yn sicrhau bod gan bawb yr hawl i ddefnyddio'r iaith ym mhob agwedd o fywyd, gan gynnwys:

  • rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg
  • sicrhau gwasanaeth Cymraeg gan y sector breifat (cymharwch â Québec, lle mae deddfau iaith yn effeithio busnesau preifat hefyd)
  • sicrhau lle i'r Gymraeg yn y chwyldro technolegol

Dadleuodd y dylai pethau, megis biliau ffôn neu ffurflen er enghraifft, fod ar gael yn ddwyieithog i bawb yng Nghymru. Credant na ddylai siaradwyr Cymraeg orfod mynd allan o'u ffordd i ofyn am wasanaeth yn eu hiaith eu hunain, neu fodloni ar ddefnyddio'r Saesneg, gan nad oes gwasanaeth Cymraeg ar gael. Dyma paham eu bod yn galw am Ddeddf Iaith Newydd i sicrhau fod pob math o wasanaethau ar gael yn ddwyieithog.

Yn ystod yr 1980au, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros Ddeddf Iaith i sicrhau fod pob cyhoeddiad a hysbysiad swyddogol yn dod yn naturiol ddwyieithog heb orfod gofyn. Ar ôl ymgyrchu caled, gorfodwyd y Llywodraeth Geidwadol i ymateb. Serch hynny, cred lawer fod Deddf Iaith 1993 yn rhy wan.

Yn ôl y Ddeddf byddai bwrdd statudol yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg a byddai cyrff cyhoeddus yn gorfod paratoi cynlluniau iaith i ddangos sut yr oeddynt am roi triniaeth deg i'r Gymraeg. Cred y Gymdeithas fod y mesurau hyn yn 'ddi-ddannedd, ddiddim.'

Ar ddechrau 2007, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei Fesur yr Iaith Gymraeg, mesur a lwyddodd arwain at basio Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a sefydlodd statws swyddogol i'r Gymraeg, bron i 50 mlynedd wedi i aelodau'r mudiad eistedd ar bont Trefechan yn galw am y polisi, a swydd Comisiynydd y Gymraeg.

Fodd bynnag, ni sefydlodd y Mesur hawl statudol cyffredinol i'r Gymraeg, o ganlyniad ail-enwodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ei grŵp ymgyrchu o'r "ymgyrch deddf iaith" i'r "grŵp hawliau".

'Gwnewch bopeth yn Gymraeg'Golygu

Cyn y 1960au tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd a'r capel a phrin oedd y defnydd o'r iaith mewn cylchoedd eraill. Ond gyda'r adfywiad yn y diddordeb yn y Gymraeg a'r ymgyrchu ar ei rhan, gwelwyd cynnydd yn y mudiadau a chymdeithasau a hyd yn oed busnesau a weithredai drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd llawer mwy o lyfrau Cymraeg a sefydlwyd dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru.

Defnyddiwyd y Gymraeg fwyfwy mewn bywyd cyhoeddus ac yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol a sefydlwyd yn 1999 wedi'i gyfundrefnu i weithredu'n ddwyieithog.

Ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011Golygu

Yn dilyn canlyniadau argyfyngus Cyfrifiad 2011, cynhaliodd y mudiad cyfres o raliau ar hyd a lled Cymru. Yn y rali gyntaf yng Nghaernarfon cyhoeddodd y mudiad Maniffesto Byw ar gyfer Cymunedau Byw gyda degau o bolisiau wedi eu llunio er mwyn cryfhau'r Gymraeg. Lansiodd y grŵp pwyso slogan "Dwi eisiau byw yn Gymraeg" yn yr un rali.

Ar Chwefror 6ed 2013 a Gorffennaf 4ydd 2013, cwrddodd dirprwyiaeth o’r Gymdeithas â'r Prif Weinidog Carwyn Jones i bwyso am newidiadau polisi. Ar Chwefror 6ed 2013, addawodd Carwyn Jones i'r Gymdeithas y byddai’n asesu effaith iaith y gyllideb ar y Gymraeg.[angen ffynhonnell] Hyd heddiw, nid oes asesiad wedi ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig o'r Maniffesto Byw ym mis Gorffennaf 2013, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a chyfarfod cyffredinol arbennig pan basiwyd nifer o welliannau i'r Maniffesto.

Ym mis Awst 2013, ysgrifennodd y mudiad at y Prif Weinidog Carwyn Jones gan roi chwe mis iddo ddatgan ei fwriad i gyflawni chwe newid polisi er lles yr iaith:

1. Addysg Gymraeg i Bawb

2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg

3. Gweinyddu'n fewnol yn Gymraeg

4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir

5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau

6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy

Ni chafwyd datganiad o fwriad gan Carwyn Jones erbyn 1 Chwefror 2014, felly cychwynodd y mudiad ymgyrch weithredol a chynhaliwyd nifer o brotestiadau ar hyd a led y wlad.

Ymgyrch NA i 8000 o dai yng Ngwynedd a MônGolygu

Cynhaliwyd protest gan Cymdeithas yr Iaith yn Nghaernarfon ddydd Sadwrn y 29ain o Fawrth 2014 yn gwrthwynebu'r cynlluniau i adeiladu 8000 o dai yng Ngwynedd a Môn.[2] Yn ôl erthygl ar wefan Cymdeithas yr Iaith, daeth 300 o brotestwyr yno.[3] Ymysg y siaradwyr oedd yr awdures a'r ymgyrchwraig, Angharad Tomos, a Robin Farrar, cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Y pryder yw na fydd y bobl a fydd yn symud i'r tai newydd yn siarad y Gymraeg, a bydd hynny'n rhoi 'mwy o bwysau ar yr iaith Gymraeg'.

Llwyddiannau'r MudiadGolygu

Yn ôl gwefan y mudiad, cyfrannodd ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith at sicrhau nifer o fuddugoliaethau megis y canlynol:

1960au - Arwyddion Ffyrdd Cymraeg

1970/80au - Sianel Deledu Cymraeg

1990au - Deddf Iaith 1993

2000au - Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd

2010 - Statws Swyddogol i'r Gymraeg ym Mesur y Gymraeg (2011)

2011 - Sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

2015 - Statws Uwch i'r Gymraeg yn y system gynllunio

2016 - Sefydlu un continwwm dysgu ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl

Aelodau nodedig, cyd-aelodau a chefnogwyrGolygu

 
Saith o aelodau amlwg o Gymdeithas yr Iaith sydd wedi bod yn y carchar fel canlyniad o ymgyrchoedd dros y Gymraeg: Enfys Llwyd, Helen Greenwood, Angharad Tomos, Sioned Elin, Ann Rhys, Meinir Ffransis, Marged Tomos (chwith i'r dde)

Y TafodGolygu

Prif erthygl: Y Tafod
 
Rhifyn cyntaf o Dafod y Ddraig ('Dalengyswllt Dinas Bangor'); Hydref 1963. Yr ymgyrchoedd: ffurflenni treth, gweinyddiaeth Llyfrgell y Ddinas a chodi dwy ysgol Gymraeg newydd.

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw'r Tafod (gwreiddiol: Tafod y Ddraig) a lansiwyd yn wreiddiol yn Hydref 1963. Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Gweler hefydGolygu

Dolenni allanolGolygu

CyfeiriadauGolygu