Cecil Raleigh
Ffugenw Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands (27 Ionawr, 1856 – 10 Tachwedd, 1914) oedd Cecil Raleigh. Roedd yn actor a dramodydd o Gymru.
Cecil Raleigh | |
---|---|
Ffugenw | Cecil Raleigh |
Ganwyd | Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands 27 Ionawr 1856 Aberystruth |
Bu farw | 10 Tachwedd 1914 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dramodydd |
Priod | Effie Adelaide Rowlands, Saba Raleigh |
Bywyd personol
golyguGaned Abraham Cecil Francis Fothergill Rowlands ar 27 Ionawr 1856 yn Aberystruth, Sir Fynwy, yn fab i Cecilia Anne Daniel Riley (1813-1911) a'i hail ŵr Dr. John Fothergill Rowlands (1823-1878). Cymerodd yr enw llwyfan Cecil Raleigh. Ar 19 Rhagfyr 1882, priododd Effie Adelaide Henderson (1859 - 16 Hydref 1936), nofelydd a gyhoeddodd o dan yr enw Effie Adelaide Rowlands ac yn ddiweddarach yn actio o dan yr enw llwyfan E. Maria Albanesi,[1] bu iddynt ysgaru yn ddiweddarach.[2] Ar 31 Mawrth 1894, ailbriododd ag Isabel Pauline Ellissen (8 Awst 1862-22 Awst 1923), actores a oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Saba Raleigh.[3]
Gyrfa
golyguChwaraeodd am gyfnod mewn theatr gerdd, ond gadawodd actio er mwyn ysgrifennu dramâu, naill ai ar ei ben ei hun neu mewn cydweithrediad ag eraill, cynhyrchodd dramâu, felodramâu a darnau cerddorol, a lwyfannwyd yn bennaf yn y Comedy Theatre, Llundain, ac yn y blynyddoedd diweddarach yn Drury Lane.
Mae Cheer, Boys, Cheer (1895); Hearts are Trumps (1899); The Best of Friends (1902); a The Whip (1909–10) yn enghreifftiau nodweddiadol o'i ddramâu, ond roedd yn arbennig o lwyddiannus gyda'i ddarnau cerddorol megis Little Christopher Columbus (1893), Dick Whittington and His Cat (1894), The Yashmak (1897) a The Sunshine Girl (1912).
Yn ddiweddarach gwnaed sawl un o'i ddramâu yn ffilmiau. Gweithiodd fel beirniad drama i ddau neu dri o bapurau Llundain, a daeth yn ysgrifennydd i'r Ysgol Celf Ddramatig yn Gower Street, Llundain.[4]
Dramâu
golyguCyd-ysgrifennodd The Derby Winner, 1894, gyda Henry Hamilton ac Augustus Harris, a gynhyrchwyd yn yr Unol Daleithiau o dan y teitl The Sporting Duchess a'i addasu ar gyfer ffilm ym 1915 a 1920 ymysg ei ddramau eraill oedd:
- Cheer, Boys, Cheer, gyda Harris a Hamilton, 1895
- The White Heather, 1897, gyda Hamilton, sylfaen ffilm fud 1919
- The Great Ruby, 1898, gyda Hamilton, sylfaen ffilm fud 1915
- Hearts Are Trumps, 1900, sylfaen ffilm fud 1920
- The Sins of Society, 1909, gyda Hamilton, sylfaen ffilm fud 1915
- The Whip, 1909, gyda Henry Hamilton , y sylfaen ar gyfer ffilmiau mud 1917 a 1928
- The King's Minister, sylfaen ffilm fud 1914
- Sealed Orders, 1915, gyda Hamilton, wedi'i addasu ar gyfer ffilm 1918 Stolen Orders
- Sporting Life, gyda Seymour Hicks, sylfaen ffilmiau mud 1918 a 1925
- The Marriages of Mayfair, sylfaen y ffilm fud 1920 The Fatal Hour
- The Hope, gyda Hamilton, sylfaen ar gyfer ffilm fud 1920
- The Best of Luck , gyda Hamilton, y sylfaen ar gyfer ffilm fud 1920
- The Best of Friends
- The Price of Peace
- The Grey Mare, gyda George Robert Sims
- The Guardsman, gyda Sims
Theatr
golygu- Little Christopher Columbus, 1893 burlesque, wedi ei gyd-ysgrifennu â Sims
- Dick Whittington and His Cat, pantomeim 1894, wedi ei gyd-ysgrifennu gydag Augustus Harris a Hamilton
- The Yashmak, 1897 sioe gerdd, wedi'i gyd-ysgrifennu â Seymour Hicks
- The Sunshine Girl, 1912 Comedi gerddorol Edwardaidd, llyfr wedi'i gyd-ysgrifennu â Paul A. Rubens
Marwolaeth
golyguBu farw ym 1914 a rhoddwyd ei olion i orffwys ym Mynwent Golders Green, Llundain [5]
Oriel
golyguDolenni allanol
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Meggie Albanesi". IMDb. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ "MR AND MRS ROWLANDS/RALEIGH". www.epsomandewellhistoryexplorer.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-11.[dolen farw]
- ↑ "Saba Raleigh". IMDb. Cyrchwyd 2019-10-11.
- ↑ "OUR LONDON CORRESPONDENCE, Liverpool Mercury". 11 Medi 1882. Cyrchwyd 11 Hydref 2019.
- ↑ "Mr. Cecil Raleigh". gdc.gale.com. Sunday Times. 15 Tachwedd 1914. Cyrchwyd 2019-10-11.