Cedric Brooks
Sacsoffonydd a chyfansoddwr reggae o Jamaica oedd Cedric "Im" Brooks (1943 – 3 Mai 2013).[1]
Cedric Brooks | |
---|---|
Cedric Brooks yn perfformio gyda The Skatalites yn Wrwgwái yn 2009. | |
Ganwyd | 1943 Kingston |
Bu farw | 3 Mai 2013 o trawiad ar y galon Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Studio One |
Dinasyddiaeth | Jamaica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr sacsoffon |
Arddull | reggae |
Ganwyd yn Denham Town, slwm ger y brifddinas Kingston, ym 1943. Roedd yn aelod o The Skatalites, grŵp ska enwocaf Jamaica, a chynhyrchodd Brooks nifer o gyfansoddiadau offerynnol reggae i Studio One.[2] Bu farw o drawiad ar y galon mewn ysbyty yn Ninas Efrog Newydd yn 2013.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Perrone, Pierre (20 Mai 2013). Cedric ‘Im’ Brooks Saxophonist who played ska, reggae and rocksteady. The Independent. Adalwyd ar 23 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Katz, David (8 Mai 2013). Cedric Brooks obituary. The Guardian. Adalwyd ar 23 Mai 2013.