Jamaica

gwlad ac ynys yn y Môr Caribî

Gwlad ac ynys ym Môr y Caribî ac India'r Gorllewin yw Jamaica (ynganiad Saesneg: /əˈmkə/ (Ynghylch y sain ymagwrando); Jamaiceg: Jumieka, [dʒʌˈmi̯eka]). Hon ydy'r ynys drydedd fwyaf—ar ôl Ciwba ac Hispaniola—yn yr Antiles Fwyaf a'r Caribî, a chanddi arwynebedd o 10,990 square kilometre (4,240 mi sgw).[1] Lleolir Jamaica tua 145 km (90 mi) i dde Ciwba, 191 km (119 mi) i orllewin Hispaniola (yr ynys sy'n cynnwys Haiti a Gweriniaeth Dominica), a 215 km (134 mi) i dde-ddwyrain Ynysoedd Caiman (un o diriogaethau'r Deyrnas Unedig).[1]

Jamaica
ArwyddairAllan o lawer, un bobl Edit this on Wikidata
Mathteyrnas y Gymanwlad, esblygiad tiriogaethol yr Ymerodraeth Brydeinig, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth archipelagig Edit this on Wikidata
Lb-Jamaika.ogg, LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Jamaica.wav Edit this on Wikidata
PrifddinasKingston Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,697,983 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1962 Edit this on Wikidata
AnthemJamaica, Land We Love, God Save the King Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAndrew Holness Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00, America/Jamaica Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynoly Caribî, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi Edit this on Wikidata
GwladBaner Jamaica Jamaica
Arwynebedd10,991.90954 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Caribî Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyday Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau18.18°N 77.4°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabinet of Jamaica Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholParliament of Jamaica Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Jamaica, Governor-General of Jamaica Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Jamaica Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAndrew Holness Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$14,658 million, $17,098 million Edit this on Wikidata
ArianJamaican dollar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith13 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant2.046 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.709 Edit this on Wikidata

Cyfaneddwyd Jamaica yn gyntaf gan y bobloedd Taíno, ac ystyr yr enw yn yr iaith frodorol yw Ynys y Ffynhonnau. Daeth yr ynys dan reolaeth Ymerodraeth Sbaen yn sgil glaniad Cristoffer Columbus ym 1494, a chafodd nifer o'r brodorion eu lladd gan y Sbaenwyr ac afiechydon newydd a ddygwyd i'r Byd Newydd. Yn ystod cyfnod masnach gaethweision yr Iwerydd, cludwyd niferoedd mawr o Affricanwyr i Jamaica.[1] Bu'r ynys dan reolaeth Sbaen, ac yn dwyn yr enw Santiago, nes i Loegr ei meddiannu ym 1655 a'i hail-enwi'n Jamaica. Dan weinyddiaeth yr Ymerodraeth Brydeinig, daeth yr ynys yn rhan bwysig o India'r Gorllewin Brydeinig, a datblygodd economi o blanhigfeydd siwgr a ddibynnai ar barhâd mewnforio Affricanwyr a chadw eu disgynyddion yn gaethweision. Wedi diwedd y fasnach gaethweision yn yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1807, rhyddhawyd yr holl gaethweision ym 1838, a dewisiodd nifer ohonynt ennill eu bywoliaeth ar ffermydd ymgynhaliol yn hytrach na pharhau i weithio ar yr ystadau mawr. O'r 1840au ymlaen, defnyddiodd y tirfeddianwyr Prydeinig lafurwyr ymrwymedig o Tsieina ac India i weithio ar eu planhigfeydd. Enillodd Jamaica ei hannibyniarth ar y Deyrnas Unedig ar 6 Awst 1962, er iddi barhau'n un o deyrnasoedd y Gymanwlad.[1]

Yn nhermau ei phoblogaeth—2.8 miliwn—Jamaica ydy'r wlad Saesneg drydedd fwyaf yn yr Amerig (ar ôl Unol Daleithiau America a Chanada), y wladwriaeth sofran bedwaredd fwyaf yn y Caribî (ar ôl Haiti, Ciwba, a Gweriniaeth Dominica), a'r ynys bedwaredd fwyaf yn y Caribî (ar ôl Hispaniola, Ciwba, a Phwerto Rico). Prifddinas a dinas fwyaf y wlad yw Kingston, sy'n gartref i 660,000 o drigolion yn ei phlwyf a bron 1.2 miliwn o bobl yn ei hardal fetropolitanaidd. Disgynna'r mwyafrif o Jamaicaid o linach Affricanaidd is-Saharaidd, ac mae hefyd lleiafrifoedd sylweddol o dras Ewropeaidd, Asiaidd Dwyreiniol (yn bennaf Tsieineaidd), Indiaidd, Libanaidd, ac hil gymysg.[1] Allfuda llawer o bobl o'r ynys i wledydd eraill i chwilio am waith ers y 1960au, ac o'r herwydd mae niferoedd mawr o Jamaicaid ar wasgar, yn enwedig yng Nghanada, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau. Serch ei maint cymharol bychan, mae gan y wlad ddylanwad byd-eang nodedig: dyma man geni'r grefydd Rastaffariaeth a chartref cerddoriaeth reggae (a genres cysylltiedig megis dub, ska, a dancehall), ac mae cystadleuwyr Jamaicaidd yn amlwg ym myd chwaraeon rhyngwladol, yn enwedig criced, sbrintio, ac athletau.[2][3][4][5] Caiff Jamaica ei hystyried weithiau yn "uwchbwer diwylliannol" lleiaf poblog y byd.[6][7][8][9]

Gwlad incwm-canol-uwch yw Jamaica[5] gydag economi sy'n ddibynnol yn gryf ar dwristiaeth; ar gyfartaledd mae 4.3 miliwn o dwristiaid yn ymweld â'r wlad bob blwyddyn.[10] Caiff y wlad argraff ffafriol wrth fesur rhyddid y wasg (Mynegai Rhyddid y Wasg), llywodraethiant democrataidd (Mynegai Democratiaeth), a lles cynaliadwy (Mynegai Byd Hapus). Brenhiniaeth gyfansoddiadol seneddol yw Jamaica gyda grym yn perthyn i'r ddeddfwrfa ddwysiambrog, sy'n cynnwys senedd benodedig a thŷ'r cynrychiolwyr etholedig.[1] Gwasanaetha Andrew Holness yn Brif Weinidog Jamaica ers Mawrth 2016. Fel un o deyrnasoedd y Gymanwlad, Siarl III sy'n dwyn teitl Brenin Jamaica, a phenodir Llywodraethwr Cyffredinol (Patrick Allen ers 2009) i gynrychioli'r Goron yn Jamaica.

Hanes golygu

Brodorion Jamaica golygu

Daeth trigolion cynharaf Jamaica o ynysoedd dwyreiniol y Caribî, o debyg mewn dau gyfnod ymfudo. Tua'r flwyddyn 600, cyrhaeddodd y bobl Redware, adnabyddir o'u priddlestri coch. Tua 800, daeth y Taino i'r ynys, pobl Arawaceg eu hiaith. Ymsefydlasant ar draws Jamaica, a sefydlasant economi ar sail pysgota, indrawn, a casafa. Trigant mewn pentrefi dan arweiniad penaethiaid.

Columbus a'i griw golygu

Christopher Columbus oedd yr Ewropead cyntaf i ddarganfod yr ynys, a hynny ar 3 Mai 1494 tra'n morio gororau deheuol Ciwba, yn ystod ei ail fordaith i'r Amerig. Efe a'i galwodd yn Sant Iago, er anrhydedd i nawddsant Sbaen. Glaniodd yn Ora Cahessa, a threchodd y brodorion i gymryd meddiant o'r ynys yn enw brenin Sbaen. Wedi aros am dymor byr, gadawodd Columbus Jamaica. Ym Mehefin 1503, pan oedd ar ei bedwaredd fordaith, a'r olaf, fe'i goddiweddwyd ef gan dymestl fawr: collwyd dwy o'i longau ar lannau Jamaica, a chafoddy morwyr y caredigrwydd mwyaf gan y brodorion. Arhosodd Columbus yno am ragor na blwyddyn, i ddisgwyl am ddychweliad y cenhadon aanfonasai efe at Ovando, llywodraethwr Hispañola, fel y gelwid Ciwba pryd hwnnw. Yn ystod yr amser hwnnw, efe a ddioddefodd gan afiechyd,yn ogystal ag oddi wrth derfysg ym mysg ei ddilynwyr, ymddygiad gwarthus pa rai a wnaeth yr Indiaid yn elynion, ac a barodd iddynt atal ymborth ac angenrheidiau oddi wrthynt, hyd nes y darfu i Columbus eu gormesu.

Daearyddiaeth golygu

Gorweddir yr ynys yng Nghulfor Honduras, rhwng Môr y Caribî a Gwlff Mecsico, 80 milltir i dde Ciwba, 90 milltir i orllewin Hispañola, a 515 milltir i ogledd Chagres, yn Lleindir Panama. Jamaica yw'r fwyaf dehuol o'r swp aelwir yr Antilles Fwyaf, yr Ynysoedd Cyfwerwyntol.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 "CIA World Factbook – Jamaica". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 January 2021. Cyrchwyd 29 July 2019.
  2. "Athletics in Jamaica". My island Jamaica. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 August 2010. Cyrchwyd 11 October 2010.
  3. "Reggae." Encyclopedia of Popular Music, 4th ed. Ed. Colin Larkin. Oxford Music Online. Oxford University Press. Web. 16 February 2016.
  4. "Jamaica". State.gov. 14 September 2007. Cyrchwyd 4 July 2009.
  5. 5.0 5.1 "Jamaica (country)". World Bank. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 February 2019. Cyrchwyd 21 February 2019.
  6. Horan, Tom (5 August 2012). "How Jamaica conquered the world". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 February 2023.
  7. Smith, Noah (27 October 2021). "What makes a cultural superpower?". noahpinion.substack.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 February 2023.
  8. Davis, Garwin (20 February 2016). "Jamaica A Global Cultural Power – Hanna – Jamaica Information Service". jis.gov.jm. Cyrchwyd 3 February 2023.
  9. "Jamaica". Strong Sense of Place (yn Saesneg). 2023. Cyrchwyd 27 March 2023.
  10. "Record 4.3 Million Tourist Arrivals in 2017". Jamaica Information Service (Government of Jamaica). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 February 2019. Cyrchwyd 21 February 2019.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.