Mae ceiropracteg yn therapi amgen a ddatblygwyd yn wreiddiol gan D. D. Palmer. Yn syml, mae'n cynnwys trin y cymalau, yn enwedig yr asgwrn cefn.

Ceiropracteg
Enghraifft o'r canlynoltriniaeth meddygaeth amgen Edit this on Wikidata
SylfaenyddDaniel David Palmer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar y cyfan, nid oes tystiolaeth bod ceiropracteg yn driniaeth effeithiol.[1] Serch hynny, mae ceiropracteg yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Canada ac Awstralia, yn ogystal ag (i raddau llai) yn yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, Iwerddon, Seland Newydd a llawer o wledydd eraill.

Mae ceiropracteg wedi dod yn ddadleuol dros y blynyddoedd. Ceir nifer fach ond dylanwadol o geiropractyddion sy'n gwrthwynebu brechu ac nad oeddent yn dilyn gorchmynion iechyd cyhoeddus yn ystod pandemig COFID-19.

Cyfeiriadau golygu