Celf Islamaidd

(Ailgyfeiriad o Celfyddyd Islamaidd)

Celf Islamaidd.

Celf Islamaidd
Enghraifft o'r canlynolarddull mewn celf Edit this on Wikidata
Mathcelf Edit this on Wikidata
Rhan oIslamic culture Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Patrymau

golygu
 
Golygfa tu mewn y brif gromen ym Mosg Selimiye yn Edirne, Twrci.

Mae patrymau yn nodwedd boblogaidd gan arlunwyr Mwslimaidd ers canrifoedd. Dylanwadwyd mathemateg Islamaidd yn gryf gan weithiau'r Hen Roegwyr, ac felly roedd geometreg yn bwysig mewn diwylliant Islam. Defnyddiodd arlunwyr batrymau geometrig sy'n ail-adrodd, yn cylchdroi ac yn adlewyrchu. Defnyddiwyd celf batrymog i addurno waliau, lloriau, carpedi, potiau, lampiau, cloriau llyfrau, a thecstilau, yn enwedig yn y mosg.

Roedd negeseuon crefyddol gan rai o'r patrymau. Maent yn dechrau mewn canol cylch: mae'r cylch yn symboleiddio Allah, sef un duw heb ddiwedd, ac mae'r canol yn symboleiddio Mecca, a thuag at y ddinas sanctaidd hon mae Mwslimiaid yn wynebu wrth weddïo. Mae natur ailadroddus patrymau yn gallu cynrychioli deddf ddinewid Allah. O'r cylch gellir tynnu siapiau eraill yn fanwl gywir, a'r dair ffurf sylfaenol yng nghelf Islamaidd yw'r triongl, y sgwâr a'r hecsagon. Caiff rhain eu llunio a'u cyfosod i greu patrymau cylchdroëdig ac adlewyrchol o frithwaith geometrig neu gylymau a chadwyni plethedig. Mae symbol y seren a'r cilgant yn bresennol mewn nifer o ddyluniadau. Ymgorfforir caligraffeg Arabeg yng nghelf Islamaidd yn aml.

Hyd heddiw, arddurnir mosgiau gyda phatrymau tebyg i gelf Islamaidd draddodiadol. Ni chaniateir unrhyw gelf yn y neuadd weddïo, ond adeiladwyd nifer o fosgiau gydag addurniadau allanol crand a deiniadol. Gwelir patrymau hefyd ar gopïau o'r Coran a llyfrau eraill, dillad a wisgir gan Fwslimiaid, a chynnyrch y crochenydd a'r chwythwr gwydr.