Priodoledd gramadegol yw cenedl enwau. Mae cenedl enwau yn amrywio yn ôl iaith. Yn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd, sy'n cynnwys y Gymraeg a'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop, Iran ac is-gyfandir India, mae enwau'n gallu bod yn wrywaidd, benywaidd neu (weithiau) yn ddiryw (neu ddigenedl). Yn achos rhai ieithoedd eraill fel Siapaneg a Tsieineeg ni cheir cenedl enw o gwbl. Mater o gyfleustra gramadegol yn unig yw'r termau 'benywaidd' a 'gwrywaidd' yma.

Y Gymraeg

golygu

Yn y Gymraeg mae enwau'n naill ai'n fenywaidd neu wrywaidd.[1]

Mae rhai enwau'n amrywio o ran cenedl yn ôl bro neu dafodiaith. Yn ogystal, ceir rhai enghreifftiau o enwau'n newid cenedl gydag amser, e.e. mae dinas yn enw benywaidd heddiw ond bu'n wrywaidd cynt; gwelir yr hen genedl o hyd mewn enwau lleoedd, e.e. Braich-y-Dinas. Weithiau mae cenedl enw yn amrywio yn ôl ystyr y gair, e.e. golwg ("yn y golwg" ond "yr olwg arno!"). Yn achos rhai geiriau benthyg diweddar mae'r genedl yn fater o ddewis gan nad ydynt wedi cael yr amser i ymgartrefu yn yr iaith.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Deall cenedl enwau - Defnyddio iaith - cenedl enwau ac idiomau - TGAU Cymraeg Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-21.