Ieithoedd Indo-Ewropeaidd
Teulu ieithyddol yw'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd. Maen nhw'n cynnwys y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop a llawer o ieithoedd De a De-orllewin Asia. Maen nhw'n tarddu o un iaith hynafiadol (Proto-Indo-Ewropeg).
DosbarthiadGolygu
(Mae'r ieithoedd gyda seren (*) wedi darfod a'r rhai a dwy seren (**) wedi'u hadfer).
- Albaneg
- Ieithoedd Germanaidd (Germaneg)
- Gorllewinol: Hen Uchel Almaeneg* (> Almaeneg), Iseldireg (> Afrikaans), Hen Sacsoneg* (> Isel Almaeneg), Ffriseg, Hen Saesneg* (> Saesneg, Sgoteg)
- Gogleddol: Hen Norseg* > Ffaröeg, Islandeg, Norwyeg, Swedeg, Daneg
- Dwyreiniol: Gotheg*
- Ieithoedd Anatolaidd*: e.e. Hetheg*
- Armeneg
- Ieithoedd Baltaidd: Latfieg, Lithwaneg, Prwsieg*
- Ieithoedd Celtaidd (Celteg)
- Feneteg*
- Ieithoedd Italaidd: Lladin*, Osgeg*, Wmbreg*
- Ieithoedd Romáwns (Rhufeinaidd): Catalaneg, Dalmatieg* (Veliot*), Eidaleg, Ffrangeg (Ffrangeg, Ffrangeg Creol, Ffrangeg Normanaidd*), Galiseg, Ocsitaneg, Portiwgaleg (Portiwgaleg, Portiwgaleg Creol, Profensaleg, Rwmaneg (Rwmaneg neu Daco-Rwmaneg, Aromunieg neu Macedo-Rwmaneg, Megleniteg neu Megleno-Rwmaneg, Istro-Rwmaneg), Rhaetieg (Ffriŵleg, Ladineg, Romaunsch), Sbaeneg (Sbaeneg, Sbaeneg Creol, Sbaeneg Iddewig neu Ladino)
- Groeg
- Ieithoedd Indo-Iraneg:
- Ieithoedd Slafonaidd
- Ieithoedd Tocharaidd*: Tochareg A*, Tochareg B*
MorffolegGolygu
Mae’r holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd yn synthetig i ryw radd neu gilydd; yr ieithoedd Slafeg yw’r ieithoedd mwyaf ceidwadol i Broto-Indo-Ewropeg yn nhermau’u morffoleg gyda lefelau uchel o ffurfdroad enwol a berfol, a Saesneg ac Afrikaans yw’r ieithoedd lleiaf ceidwadol. Maent hefyd yn ymasiadol, er enghraifft yn Lladin mae’r terfyniad -us yn y gair bonus (da) , yn dynodi’r cenedl gwrywaidd, y cyflwr goddrychol, rhif unigol a’r modd dangosol. Mae hyn hefyd yn amlwg yn yr ieithoedd Germanaidd a Cheltaidd lle effeithir gwreiddyn y gair gan y ffurfdroad, er enghraifft y Saesneg sing, sang, sung a song a’r Gymraeg ffordd a ffyrdd. Mae Ffrangeg fel eithriad wedi dod yn fwy dodiadol. Tuedd ymysg yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw i ddod yn fwy analytig, er enghraifft mae’r ieithoedd Romáwns a’r ieithoedd Celtaidd wedi colli eu holl gyflyrau enwol. Yn wahanol i grwpiau eraill o ieithoedd mae’r ieithoedd Indo-Ewropeaidd wedi colli morffoleg heb ei ail-greu; mae’r symudiad unffordd hwn tuag at ddadelfeniad wedi bod yn digwydd am 6,000 o flynyddoedd yn wahanol i nifer o ieithoedd eraill lle gynhelir morffoleg yn well.