Centimetr
Uned fesur hyd yn y system fetrig yw centimetr neu gentimedr (cm). Mae can centimetr mewn metr, a deg milimetr mewn centimetr. Er nad yw'n cydymffurfio â'r arfer o ddefnyddio pwerau o 1000 ar gyfer unedau yn y system SI, mae'n ymarferol iawn ar gyfer mesuriadau pob dydd.
Mae centimetr yn gywerth â tua 0.3937 modfedd.