Uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau yw'r metr, neu medr (symbol: m), a ddefnyddir i fesur hyd. Hwn yw'r uned sylfaenol yn y system fetrig ddefnyddir ledled y byd yn gyffredinol ac yn wyddonol.

Metr
Enghraifft o'r canlynolunedau sylfaenol SI, uned mesur hyd, uned SI gydlynol, uned sylfaen UCUM Edit this on Wikidata
Rhan osystem o unedau MKSA, System Ryngwladol o Unedau, system o unedau MKS Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ceir 100 centimetr mewn 1 metr ac mae 1000 o fetrau'n gwneud 1 cilometr.

Diffiniad golygu

Wedi diffinio maint yr eiliad, mae maint y metr yn sefydledig ar y ffaith mai 299,792,458 m/s (metr yr eiliad) ydy cyflymder golau yn fanwl.

 
Metr yn Place Vendôme, Paris

Archebwyd y metr hwn mewn marmor gan Convention nationale Ffrainc i annog y defnydd o'r system fetrig newydd. O'r 16 metr o'r fath a luniwyd rhwng 1796 a 1799 ar gyfer llefydd prysuraf Paris, dim ond dau sydd i'w weld heddiw yn y brif ddinas.

  Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.