Cerdded
Gellir diffinio cerdded fel 'symud ar ddau droed' ond yn gymharol araf, heb redeg. Dywedir yn aml mai cerdded yw'r dull cynharaf a symlaf o deithio gan fodau dynol. Cyn dyfodiad y rheilffordd a rhwydweithiau cludiant cerdded oedd y dull cyffredin o symud o le i le.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gweithrediad dynol ![]() |
Math | terrestrial locomotion, gweithgaredd hamdden, Ymarfer corff, locomotor skill ![]() |
![]() |
Mae rhai anifeiliaid yn medru cerdded hefyd, fel y tsimpansi er enghraifft, ond dim ond pobl sy'n medru cerdded yn dalsyth ar ddau droed.
Erbyn hyn mae cerdded - sef 'mynd am dro' - yn ffordd boblogaidd o dreulio oriau hamdden. Mewn rhai gwledydd ceir llwybrau cyhoeddus a llwybrau pellder hir arbennig fel Llwybr Glyndŵr yng Nghymru.