Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dal swyddogaeth arbennig iawn fel cerddorfa genedlaethol a darlledu ac yn cael ei chydnabod nid yn unig am safon y perfformiadau ond hefyd am ei phwysigrwydd o fewn ei chymuned ei hun.

Y Gerddorfa yw Cerddorfa Breswyl Neuadd Dewi Sant, gan gyflwyno cyfres o gyngherddau yn ogystal yn Neuadd Brangwyn, Abertawe. Mae'r gerddorfa yn teithio trwy Gymru ac yn rhyngwladol. Mae'n cymryd rhan yn gyson yng nghyngerddau'r Proms y BBC a phob dwy flynedd yng nghystadleuaeth bwysig BBC Canwr y Byd Caerdydd. Darlledir cyngherddau'r Gerddorfa ar BBC Radio 3, ac ar radio a theledu BBC Cymru Wales a BBC 4.

Dolenni Allanol

golygu