Mae Neuadd y Brangwyn yn neuadd gyngerdd yn Abertawe. Cafodd ei henwi ar ôl yr artist Frank Brangwyn, ac arddangosir ei "baneli" enwog (a oedd fod mynd i Dŷ'r Arglwyddi) yno.

Neuadd Brangwyn
Mathneuadd gyngerdd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol23 Hydref 1934 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1934 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6139°N 3.96°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCyngor Dinas a Sir Abertawe Edit this on Wikidata

Mae Neuadd y Brangwyn yn rhan o adeilad Guildhall Abertawe, a chaiff ei ddefnyddio am seremonïau gwobrwyo a digwyddiadau cymdeithasol yn ogystal â chyngherddau cerddoriaeth clasurol a cherddoriaeth roc. Ymysg y dathliadau a gynhelir yn Neuadd y Brangwyn mae dathliadau'r flwyddyn Newydd Tsieiniaidd blynyddol (ar gyfer cymuned Tsieiniaidd Abertawe) a seremonïau graddio myfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn defnyddio'r lleoliad yn rheolaidd pan yn perfformio yn Abertawe.

Dolenni allanol

golygu