Cerddoriaeth bachata

Genre cerddoriaeth o America Ladin yw bachata a darddodd yn niwylliant Gweriniaeth Dominica yn hanner cyntaf yr 20g. Mae ganddo ddylanwadau Sbaenaidd yn bennaf, a hefyd elfennau cerddorol brodorol ac Affricanaidd, sy'n cynrychioli amrywiaeth ddiwylliannol poblogaeth y Weriniaeth Ddominicaidd.[1]

Cerddoriaeth bachata
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth ddawns, tropical music, music of the Dominican Republic Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1960s Edit this on Wikidata

Y cyfansoddiadau cyntaf bachata oedd gan José Manuel Calderón o Weriniaeth Dominica. Mae bachata yn tarddu o gerddoriaeth bolero a cherddoriaeth son (ac yn ddiweddarach, o ganol y 1980au, merengue). Y term gwreiddiol a ddefnyddiwyd ar gyfer y genre oedd amargue ("chwerwder", "cerddoriaeth chwerw" neu "gerddoriaeth blues"), nes i'r term bachata, sydd braidd yn amwys a naws-niwtral, ddod yn boblogaidd. Datblygodd ffurf y ddawns, dawns bachata, gyda'r gerddoriaeth hefyd.[2]

Trosolwg

golygu
 
Pâr yn dawnsio bachata

Tarddodd y bachata cynharaf yng nghefn gwlad Gweriniaeth Dominica yn hanner cyntaf yr 20g. Recordiodd José Manuel Calderón y gân bachata gyntaf, "Borracho de amor" ym 1962. Cymysgodd y genre yr arddull pan-Ladin Americanaidd o'r enw bolero gyda mwy o elfennau'n dod o son, a'r traddodiad canu trwbadŵr cyffredin yn America Ladin. Yn ystod rhan fwyaf o'i hanes, diystyrwyd cerddoriaeth bachata gan y dosbarth uwch Dominicaidd ac roedd yn gysylltiedig â than-ddatblygiad gwledig a throsedd. Hyd yn oed yn yr 1980au, ystyriwyd bod bachata yn rhy fwlgar, cwrs, ac yn rhy wledig i'w ddarlledu ar deledu neu radio yn y Weriniaeth Dominica. Fodd bynnag, yn yr 1990au newidiodd offeryniaeth bachata o gitâr Sbaenaidd llinyn neilon a maracas bachata traddodiadol i linyn dur trydan a'r güira bachata modern. Newidiodd Bachata ymhellach yn yr 21ain ganrif wrth i arddulliau bachata trefol cael eu creu gan fandiau fel Monchy y Alexandra ac Aventura. Daeth yr arddulliau modern newydd hyn o bachata yn ffenomen ryngwladol, a heddiw mae bachata yn un o arddulliau mwyaf poblogaidd cerddoriaeth Ladin.

 
Bachata

Offerynnau

golygu
 
Güira

Mae'r grŵp bachata arferol yn cynnwys pum offeryn: requinto (gitâr arweiniol), segunda (gitâr rhythm), gitâr fas, bongos a güira (offeryn taro o'r Weriniaeth Dominica). Mae'r segunda yn ychwanegu trawsacennu i'r gerddoriaeth. Mae grwpiau Bachata yn chwarae'r arddull syml bolero yn bennaf (mae gitâr arweiniol yn defnyddio cordiau ailadroddus arpeggio yn nodweddiadol o bachata), ond pan fyddant yn newid i fachata wedi'i seilio ar merengue, bydd yr offerynnwr taro yn newid o fongo i drwm tambora. Yn y 1960au a'r 1970au, defnyddiwyd maracas yn lle güira. Daeth y newid yn yr 1980au o faracas i'r güira (sy'n fwy amlbwrpas) wrth i bachata ganolbwyntio mwy ar ddawns.[3]

Cafodd y bachatas Dominicaidd cyntaf eu recordio yn syth ar ôl marwolaeth Rafael Trujillo, gan fod unbennaeth 30 mlynedd Trujillo yn cyd-fynd â sensoriaeth. Cydnabyddir José Manuel Calderón am recordio'r senglau bachata cyntaf: ("Borracho de amor" a "Que será de mi (Condena)"), a ryddhawyd ym 1962. Ar ôl marwolaeth Trujillo ac yn dilyn recordiau cyntaf Calderon, daeth llif o recordiadau eraill gan bobl fel Rodobaldo Duartes, Rafael Encarnacion, Ramoncito Cabrera, El Chivo Sin Ley, Corey Perro, Antonio Gómez Sacero, Luis Segura, Louis Loizides, Eladio Romero Santos, Ramón Cordero a llawer mwy. Yn y 1960au ganwyd y diwydiant cerddoriaeth Ddominicaidd, a'r gerddoriaeth bachata a fyddai'n dominyddu.

Er bod blas Dominicaidd amlwg i'r bachatas cafodd eu recordio yn y 1960au, roeddent yn cael eu hystyried ar y pryd fel amrywiad o folero, gan nad oedd y term bachata yn cael ei ddefnyddio eto. Defnyddiwyd y term hwn gyntaf i'r gerddoriaeth gan y rhai a oedd yn ceisio ei bychanu, oherwydd gyfeiriodd yn wreiddiol at barti gwledig anffurfiol, Teimlai'r dosbarth uwch cymdeithas Ddominicaidd fod cerddoriaeth bachata yn fynegiant o gyntefigrwydd diwylliannol, a dechreuodd ymgyrch i frandio bachata yng ngolau negyddol.[4] Ar un bryd roedd Bachata anghyfreithlon, ac ystyrir mwynhau'r math hwn o gerddoriaeth yn "fwlgar a chwantus". Nid oedd y dosbarth uwch eisiau newid y stereoteip hwn felly ni wnaethant ddawnsio na gwrando arno.[5] Gan fod bachata yn anghyfreithlon, nid oedd yn boblogaidd iawn, ond mae hynny wedi newid ar hyd y blynyddoedd wrth i lawer o artistiaid enwog deithio'i wneud yn fwy poblogaidd. Oherwydd nad oedd gan y cerddorion a ysgrifennodd y math hwn o gerddoriaeth unrhyw addysg gerddorol nac academaidd, gwelwyd bod gan bachata geiriau a dawnsiau rhywiol.[6]

Roedd y 1970au yn flynyddoedd tywyll i bachata. Anaml y chwaraewyd y gerddoriaeth ar y radio, a bron byth soniwyd amdano ar y teledu ac mewn print. Gwaharddwyd bachateros hefyd rhag perfformio mewn lleoliadau cymdeithas uchel - ac yn lle ond yn chwarae gigs mewn bariau a phuteindai yng nghymdogaethau tlotaf y wlad. Dylanwadwyd ar y gerddoriaeth gan ei hamgylchoedd; roedd rhyw, anobaith a throsedd ymhlith y pynciau trafodwyd y genre. Er gwaethaf ei sensoriaeth answyddogol, arhosodd bachata yn boblogaidd iawn. Rhai bachateros a ddaeth i'r amlwg o'r oes hon oedd Marino Perez a Leonardo Paniagua.

Erbyn dechrau'r 1980au, ni ellid gwadu poblogrwydd bachata. Oherwydd hyn, dechreuodd mwy o orsafoedd radio chwarae bachata, a dechreuodd bachateros perfformio ar y teledu hefyd. Yn y cyfamser roedd bachata wedi dechrau cael naws neuadd ddawns: cynyddodd y tempo, daeth chwarae gitâr fwy grymus, ac roedd canu 'galw ac ateb' yn fwy cyffredin. Yn fwyfwy daeth batacha arddull merengues, neu merengues gitâr, yn rhan bwysig o'r repertoire bachata. Blas Durán oedd y cyntaf i recordio gyda gitâr drydan ym 1987 gyda'i chan bachata-merengue, "Mujeres hembras".[4]

Erbyn dechrau'r 1990au, roedd y sain wedi'i moderneiddio ymhellach ac roedd dwy seren ifanc newydd yn dominyddu'r olygfa bachata: Luis Vargas ac Antony Santos. Roedd gan y ddau nifer mawr o bachata-merengues yn eu repertoire. Cyflawnodd Santos, Vargas a'r nifer fawr o bachateros arddull newydd a fyddai'n dilyn, lefel o enwogrwydd a oedd yn ddieithr i'r bachateros daeth o'u blaen. Nhw oedd y genhedlaeth gyntaf o artistiaid pop bachata, a chawsant yr holl frandio a hype sy'n nodweddiadol o gerddoriaeth bop fasnachol. Y cyfnod hwn hefyd y dechreuodd bachata ddod i'r amlwg yn rhyngwladol fel cerddoriaeth neuaddau dawns Ysbaenaidd.

Erbyn dechrau'r 21ain ganrif, roedd y grŵp bachata Aventura wedi cymryd y bachata a ddechreuodd Juan Luis Guerra yn gynnar yn y 1990au i uchelfannau newydd. Fe wnaethant chwyldroi a moderneiddio'r genre. Fe wnaethant werthu allan Madison Square Garden sawl gwaith, a rhyddhaent ganeuon di-ri a ddaeth yn llwyddiannus yn siartiau "Hot Latin", gan gynnwys dwy gan rhif-un "Por un segundo" a "Dile al Amor". Ymhlith yr artistiaid bachata poblogaidd eraill yn y degawd oedd "Monchy y Alexandra" a Band Los Toros.

Heddiw, ynghyd â cherddoriaeth bachata, cododd genres 'fusion' yng ngwledydd y Gorllewin megis yr Unol Daleithiau, sy'n cyfuno rhai o elfennau rhythmig cerddoriaeth bachata ag elfennau o gerddoriaeth y Gorllewin fel hip-hop, R&B, pop, techno a mwy. Mae'r genre 'fusion' hwn yn eithaf poblogaidd ymhlith cynulleidfaoedd y Gorllewin, ac yn aml mae'n cynnwys dynwarediadau o ganeuon pop y Gorllewin y chwaraeir ar MTV a gorsafoedd radio nad yw'n Lladin. Artistiaid nodedig y genre 'fusion' newydd yw Prince Royce, Xtreme a Toby Love, ymhlith eraill. Nid yn unig y mae poblogrwydd bachata wedi newid ond hefyd ei eiriau; yn wreiddiol roedd y geiriau yn sôn yn bennaf am berthnasau twyll a chalonnau'n torri, ond nawr maen nhw'n sôn am gariad ac yn fwy rhamantus. Yn ôl Bachata: Música Del Pueblo ("Bachata: Cerddoriaeth y Bobl") maen nhw'n ddweud: "Yn ystod y degawd diwethaf, mae bachata wedi cael ei drawsnewid o gerddoriaeth gitâr arddull baled y tlodion gwledig yn y Weriniaeth Ddominicaidd i'r gerddoriaeth newydd mwyaf poblogaidd y steil gerddoriaeth Latino rhyngwladol."[7]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Origins of Bachata Music". Pimsleur.com.
  2. Pacini Hernandez, Deborah. "Brief history of Bachata", Bachata, A social history of a Dominican popular music, 1995, Temple University Press. Retrieved on December 4, 2008 Archifwyd 10 Medi 2004 yn y Peiriant Wayback
  3. Pacini Hernandez, Deborah. "Brief history of Bachata" Archifwyd 2004-09-10 yn y Peiriant Wayback, Bachata, A social history of a Dominican popular music, 1995, Temple University Press. Retrieved on December 4, 2008 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-09-10. Cyrchwyd 2020-10-02.
  4. 4.0 4.1 Pacini Hernandez, Deborah. Bachata, A social history of a Dominican popular music, 1995, Temple University Press. Retrieved on December 4, 2008.
  5. "The popularity of the Bachata - a dance from the Dominican Republic is growing in Europe". euronews (yn Saesneg). 2015-06-16. Cyrchwyd 2019-11-13.
  6. Baud, Michiel (2008-04-15). "Intellectuals and Dictators in the Dominican Republic". European Review of Latin American and Caribbean Studies 0 (84): 101. doi:10.18352/erlacs.9628. ISSN 1879-4750.
  7. Gill, Hannah; Savino, Giovanni (2005-01-01). "[No title found]" (yn en). Ethnomusicology 49 (1): 172. doi:10.2307/20174370. JSTOR 20174370.