Genre

math o gategori mewn gwaith creadigol o ran arddull, cerddoriaeth, arlunio, ffilm, neu lenyddiaeth

Mae genre /ˈʒɑːn.rə/ (ynganiad: zhonre) o'r Ffrangeg math, neu dosbarth o'r gwraidd genus (rhywogaeth)[1][2] yn fudiad neu gategori yn y byd celfyddydau neu adloniant lle dosberthir gwaith yn ôl unigolrwydd cyfatebol, megis arddull neu gynnwys. Cynigir y geiriau "dosbarth", "ffurf", a dull, modd a math yng Ngeiriadur yr Academi.[3] Gall elfennau strwythurol sy'n rhagddweud, neu elfennau eithriadol, gwyraidd bennu'r dosbarthiad yn ôl genre. Defnyddir y gair Ffrangeg ac, yn weddol anarferol yn y Gymraeg, ni Chymreigir y sillafiad.[4][5]

Genre
Math o gyfrwngmetaddosbarth Edit this on Wikidata
Mathdosbarth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun gan Édouard Manet; Le Déjeuner sur l'herbe ("brecwast yn yr hydref") yn engrhaifft o'r genre Argraffiadaeth
Yr Haliwr Mawr (1929), gan Salvador Dalí, enghraiff o'r genre Swrealaeth

Is-genre a genre prif ffrwd

golygu

Genre sylfaenol yw is-ddyfeisgar. Yn aml arferir/cadw at grŵp llai neu fwy elitaidd. Mae hyn yn wahanol i genre prif ffrwd sydd â llawer o ymarferwyr a /neu'n cyrraedd cynulleidfa fawr. Os tybir bod cysylltiad cydfuddiannol, ceir hefyd brif genre a genres gwaelodol.

Mathau o genres

golygu
 
Elvis Presley, eicon genre canu roc a rol, 1957

Ysytyrir hefyd hyd yn oed gerddoriaeth sy'n gyfuniad o genre gwahanol o ar draws y byd, yn genre ynddo'i hun gan ei alw'n gerddoriaeth gyfunol (fusion music).[6]

Ydy Canu Gymraeg yn Genre?

golygu
 
Gwenno Saunders yn dadlau nad yw cerddoriaeth pop Cymraeg yn genre ynddo'i hun

Ceir trafodaeth ar a ddylid ystyried celfyddid Gymraeg fel genre ynddo'i hun neu ystyried y gwaith llenyddol neu gân fel aelod unigol o genre arall ehangach. Daw'r drafodaeth yma fwyaf amlwg ym myd canu pop Cymraeg, lle caiff, dyweder, cerddoriaeth gan fand pync neu pop Cymraeg ei labeli fel "cerddoriaeth Gymraeg" yn hytrach na "cherddoriaeth pync/pop sydd yn y Gymraeg". Hynny yw, dydy'r iaith ei hun ddim yn effeithio ar genre y gerddoriaeth ei hun a dylid ystyried y gân neu'r grŵp fel aelod o'r genre gerddorol ac nid (yn unig) fel aelod o gymuned ieithyddol. Does gan cân pync neu hip hop Cymraeg dim yn gyffredin yn gerddorol â chân neu grŵp reggae neu ska sy'n y Gymraeg.

Gwanaed sylw i'r perwyl yma gan y gantores Gwenno Saunders pan ddywedodd, ""Rydych chi'n siarad â phobl am gerddoriaeth iaith Gymraeg ac nid genre yw e, dyma'r ffordd hawsaf i ganu a dydyn nhw ddim yn meddwl dwywaith amdano."[7] Ategwyd at y farn gan Dylan Hughes, prif leisydd Ynys (a chyn hynny, Radio Luxembourg a newidiodd eu henw i Race Horses) mewn cyfweliad yng nghylchgrawn pop 'Northern Soul' yn 2019 wrth ddweud, "As you know, Welsh music is not a genre. It’s just the language the words happen to be sung in.”.[8]

Yn yr un modd, er yr ysgrifennir am ganeuon a cherddoriaeth Gymraeg, a ddylid eu hystyried fel rhan o un corff o gerddoriaeth neu canghennau o gerddoriaeth arall ehangach.[9]

Cymraeg - Genre efo Is-genre

golygu

Yn ôl un o brif berfformwyr a chyfansoddwyr cerddoriaeth roc yn y Gymraeg, Yws Gwynedd, “Mi fydd o’n [cerddoriaeth gyfoes Gymraeg] genre wastad, ond yn genre efo sub-genres. Ers talwm pan o’n i efo Frizbee, oeddach chdi’n sylwi pan oedd pobol yn prynu CD Genod Droog, roeddan nhw hefyd yn prynu CDs Frizbee ac Elin Fflur, so dyna chdi dri genre hollol wahanol o gerddoriaeth! Mae gennon ni wastad y ffan cerddoriaeth Gymraeg, so mae o’n genre mewn un ffordd, ond beth sy’n iach rŵan ydi bod yna gymaint o wahaniaeth yn y genres o fewn cerddoriaeth Gymraeg. Mae gen ti Skylrk [band o Ddyffryn Nantlle] yn gwneud stwff grill hyd yn oed, so mae gen ti bob math o stwff os wyt ti eisiau."[10]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Beth yw Genre mewn Llenyddiaeth". Culture Oeuvre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-10-18. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  2. "Definition of GENRE". www.merriam-webster.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-22.
  3. "genre". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  4. "Modiwlau". Prifysgol Aberystwyth. 2022.
  5. "genre". Cyrchwyd 18 Hydref 2022. Text "publisherPorth Termau Cenedlaethol Cymru " ignored (help)
  6. "Beth yw cerddoriaeth gyfunol?". BBC Bitesize. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  7. Stephens, Huw (27 Awst 2019). "Golwg ar dwf aruthrol cerddoriaeth iaith Gymraeg". BBC Cymru Fyw.
  8. "copi archif". Northern Soul. 21 Awst 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-04. Cyrchwyd 2022-11-04. Unknown parameter |TITLE= ignored (|title= suggested) (help)
  9. Harper, Sally. "Hanesyddiaeth, Ysgolheictod a Cherddoreg". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 18 Hydref 2022.
  10. "Dydd Miwsig Cymru "yn gwneud job dda o roi golau byd-eang ar gerddoriaeth Gymraeg"". Golwg360. 18 Chwefror 2022.