Cerflun Heddwch ar gyfer Tangnefedd y Byd

cerflun yng Nghaerdydd

Cerflun o Sri Chinmoy yn dal ffagl fflam ym Mae Caerdydd yw Cerflun Heddwch ar gyfer Tangnefedd y Byd. Ffagl fflam Rhediad Tangnefedd y Byd sy'n cael ei dal gan y cerflun, a bob blwyddyn ers 1987 mae'r ffagl yn cael ei chludo o wlad i wlad ac ar draws cyfandiroedd fel arwydd o dangnefedd.

Cerflun Heddwch ar gyfer Tangnefedd y Byd

Dadorchuddiwyd y cerflun ar 11 Mawrth 2012. Ar y diwrnod hwnnw y cychwynnodd aelodau Urdd Gobaith Cymru a Rhediad Tangnefedd y Byd gynrychioli Cymru ar daith Rhediad Tangnefedd y Byd o amgylch gwledydd Prydain. Rhoddwyd y cerflun i Gaerdydd gan Rediad Tangnefedd y Byd i nodi 25 mlynedd ers sefydlu'r Rhediad.[1]

Mae'r cerflun wedi'i leoli rhwng adeilad y Senedd a'r Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. www.waymarking.com; adalwyd 9 Awst 2018.