Eglwys Norwyaidd, Caerdydd

Adeilad hanesyddol yng Nghaerdydd yw'r Eglwys Norwyaidd, a fu gynt yn ganolfan addoli i gymuned Norwyaidd Caerdydd ond sydd bellach yn atyniad twristaidd. Saif ar lan Bae Caerdydd ger yr hen ddociau, heb fod nepell o adeilad y Senedd.

Eglwys Norwyaidd
Matheglwys, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1868 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBae Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.461°N 3.162°W, 51.461414°N 3.161925°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Yn y 19g, Caerdydd oedd y trydydd porthladd mwyaf yng ngwledydd Prydain ar ôl Llundain a Lerpwl. Roedd gan Norwy lynges fasnachol fawr ar y pryd, y trydydd mwyaf yn y byd o ran nifer y llongau, a daeth Caerdydd yn un o'i chanolfannau pwysicaf. Tyfodd cymuned Norwyaidd yno, un o sawl cymuned o dramorwyr a gafodd gartref yn ardal Tiger Bay, ger y dociau.

Daeth y Sjømannskirken – 'Eglwys y Morwyr' Norwyaidd neu 'Eglwys Norwy Dramor', sy'n rhan o Eglwys Norwy – i ymsefydlu ym Mae Caerdydd yn 1868 a chodwyd eglwys neilltuol ar gyfer y morwyr Norwyaidd.

Eglwys bren drawiadol ydy'r Eglwys Norwyaidd, wedi'i phaentio yn y dull Norwyaidd.

Bedyddwyd y llenor Cymreig o dras Norwyaidd Roald Dahl yn yr eglwys.

Erbyn heddiw mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan y celfyddydau o'r enw 'Canolfan Celfyddydau yr Eglwys Norwyaidd' (Norwegian Church Arts Centre). Ceir amgueddfa fechan ger llaw sy'n dangos hanes yr eglwys a Dociau Caerdydd.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu