Cerflun Rhyddid
Cerflun yn ninas Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau yw Rhyddid yn Goleuo'r Byd (Saesneg: Liberty Enlightening the World, Ffrangeg: La liberté éclairant le monde), a adnabyddir fel rheol fel Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty, Statue de la Liberté). Cyflwynwyd y cerflun i'r Unol Daleithiau gan bobl Ffrainc yn 1886. Saif ar Liberty Island ger harbwr Efrog Newydd. Cynllunwyd y cerflun gan Frédéric Auguste Bartholdi, tra cynllunwyd y tu mewn iddo gan Alexandre Gustave Eiffel (cynllunydd Tŵr Eiffel).
![]() | |
Math | adeiladwaith pensaernïol, cerfddelw, atyniad twristaidd, rhan o Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Liberty, Oklahoma ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Statue of Liberty National Monument, Ynys Liberty ![]() |
Rhan o'r canlynol | Statue of Liberty National Monument, Ynys Liberty ![]() |
Sir | Dinas Efrog Newydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 40.689209°N 74.044425°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth neoglasurol ![]() |
Perchnogaeth | National Park Service ![]() |
Statws treftadaeth | New York City Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, Historic Civil Engineering Landmark, NRHP contributing property ![]() |
Manylion | |
Deunydd | copr, dur, concrit, gwenithfaen, eurddalen ![]() |
Adeiladwyd y cerfun o gopr. Mae'n dangos merch yn dal fflam rhyddid. Cyhoeddwyd y cerflun yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1984.
Ar bedestal y cerflun mae'r gerdd The New Colossus gan Emma Lazarus wedi ei hysgrifennu ar dabled efydd. Mae'r llinellau olaf yn enwog:
- Give me your tired, your poor,
- Your huddled masses yearning to breathe free,
- The wretched refuse of your teeming shore;
- Send these, the homeless, tempest-tost to me,
- I lift my lamp beside the golden door!