Cerrig y Gof
Siambrau claddu cynhanesyddol yn Sir Benfro yw Cerrig y Gof. Mae'n gorwedd yn y bryniau ger Trefdraeth yng ngogledd y sir, ger bryngaer Carn Ingli. Mae'n dyddio o Oes yr Efydd.[1]
Math | siambr gladdu |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Trefdraeth |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0137°N 4.8627°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | PE050 |
Ar y safle ceir pum siambr hirsgwar o fewn olion carnedd gron. Dim ond un ohonynt sydd â'r maen clo yn ei le o hyd. Mae'r drefn o fewn cylch fel hyn yn nodweddiadol o safleoedd Sir Benfro. Cloddwyd y safle tua'r flwyddyn 1800 a darganfuwyd golosg, crochenwaith, esgyrn anifeiliaid a nifer o gerrig du mân wedi'u casglu o'r traeth, fe ymddengys.[1]
Mae'r safle ar dir preifat ar bwys y briffordd A487, gyda giat sy'n rhoi mynediad.