Chūbu
Chūbu (中部地方 Chūbu-chihō) yw'r enw a roddir ar ranbarth yng nghanolbarth Japan ar ynys Honshū. Ynddi mae taleithiau Aichi, Fukui, Gifu, Ishikawa, Nagano, Niigata, Shizuoka, Toyama, Yamanashi, ac yn aml ystyrir Mie hefyd yn rhan ohoni.
Math | region of Japan |
---|---|
Enwyd ar ôl | central part |
Poblogaeth | 21,715,822 |
Cylchfa amser | UTC+09:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Japan |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 72,572.34 km² |
Yn ffinio gyda | Kantō, Kansai, Tōhoku |
Cyfesurynnau | 35.883333°N 137.95°E |
Ystyr yr enw Chūbu yw ardal ganolog. Dyma'r ardal sydd yn cysylltu Kansai yn y gorllewin â Kantō i'r dwyrain. Ar wahan i ddinasoedd mawr ar hyd arfordir y De gyda dinas Nagoya yn ganolbwynt, ardal fynyddig iawn yw Chūbu sydd yn cynnwys rhan helaeth o Alpau Japan ynghyd â mynydd uchaf Japan, mynydd Fuji.