Honshū (本州) yw'r fwyaf o ynysoedd Japan, gydag arwynebedd o tua 230,500 km²; 60% o holl arwynebedd Japan; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae'r ynys yn 1300 km o hyd a rhwng 50 a 240 km o led, gyda 5450 km o arfordir. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 98,023,000.

Honshū
Mathisland of Japan Edit this on Wikidata
Poblogaeth104,000,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolJapanese archipelago, four main islands of Japan Edit this on Wikidata
GwladBaner Japan Japan
Arwynebedd227,939.66 ±0.01 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Japan, Y Cefnfor Tawel, Seto Inland Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36°N 138°E Edit this on Wikidata
Hyd1,300 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Honshu

Saif Honshū i'r de o Hokkaido, gyda Chulfor Tsugaru yn eu gwahanu. I'r de o Honshū mae ynys Shikoku, ac i'r de-orllewin mae Kyushu. Mae'n ynys fynyddig, a cheir daeargrynfeydd yn aml. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (3776 medr). Y ddinas fwyaf yw Tokyo, ac mae ardal ddinesig Tokyo Fwyaf yn cynnwys 25% o'r boblogaeth. Ymhlith y dinasoedd eraill mae Kyoto, Osaka, Kobe, Hiroshima a Nagoya.