Alpau Japan
Casgliad o res o fynyddoedd yng nghanolbarth Japan yw Alpau Japan (Japaneg: 日本アルプス Nihon Arupusu) sydd yn trawstori ynys Honshū, ynys fwyaf y wlad. Daeth yr enw Saesneg "Japanese Alps" o William Gowland, archeolegydd o Loegr a adnabyddir yn aml fel "Tad Archeoleg Japan" cyn cael ei boblogeiddio gan y Parchedig Walter Weston (1861–1940), cenhadwr o Loegr sydd bellach â cofeb yn nhref Kamikochi, man poblogaidd i dwristiaid a ddaw i Alpau Japan. Pan ddyfeisiodd William Gowland yr enw, yr oedd yn cyfeirio at Fynyddoedd Hida yn unig. Daeth yr ardal i enwogrwydd drwy gynnal Gemau Olympaidd y Gaeaf Nagano 1998.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Alpau |
Cylchfa amser | amser safonol Japan |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Chūbu |
Sir | Niigata, Toyama, Yamanashi, Shizuoka, Gifu, Nagano |
Gwlad | Japan |
Uwch y môr | 3,193 metr |
Cyfesurynnau | 36°N 137°E |
Tair rhes o fynyddoedd
golyguHeddiw, mae Alpau Japan yn cynnwys tri prif res o fynyddoedd, Mynyddoedd Hida, Mynyddoedd Kiso a Mynyddoedd Akaishi. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o gopaon sy'n esgyn dros 3,000m (9,843 troedfedd) mewn uchder, y talaf ar ôl Mynydd Fuji. Yr uchaf yw Mynydd Hotaka (3,190m) a Mynydd Kita (3193m). Mae Mynydd Ontake yn nhalaith Nagano (3,067m) yn fan ar gyfer pererindodau ynghŷd â bod yn llosgfynydd byw, wedi iddo ffrwydro yn ddiweddar ym 1979 ac 1980.
Mynyddoedd Hida
golygu- Prif: Mynyddoedd Hida
Mae mynyddoedd Hida, neu'r "Alpau Gogleddol" yn res o fynyddoedd sydd yn ymestyn ar draws taleithiau Nagano, Toyama a Gifu. Mae rhan fechan ohonynt yn dod o fewn talaith Niigata.
Mynyddoedd Kiso
golygu- Prif: Mynyddoedd Kiso
Rhes o fynyddoedd yw mynyddoedd Kiso, neu'r "Alpau Canolog" sy'n ymestyn trwy daleithiau Nagano a Gifu.
Mynyddoedd Akaishi
golygu- Prif: Mynyddoedd Akaishi
Rhes o fynyddoedd yw mynyddoedd Akaishi, neu'r "Alpau Deheuol" sy'n ymstyn ar draws taleithiau Nagano, Yamanashi a Shizuoka.
Cyfeiriadau
golygu- Walter Weston, Mountaineering and Exploration in the Japanese Alps, Llundain, John Murray, 1896