Chalcedon
Dinas yn nhalaith Bithynia yn y cyfnod clasurol oedd Chalcedon (Groeg: Χαλκηδών). Roedd bron gyferbyn a dinas Caergystennin yr ochr arall i'r culfor, ac erbyn hyn mae'n rhan o Istanbul, Twrci.
Math | dinas hynafol, polis |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | mytholeg Roeg |
Sir | Kadıköy |
Gwlad | Twrci |
Cyfesurynnau | 40.98°N 29.03°E |
Sefydlwyd y ddinas fel gwladychfa gan y Megariaid. Gadawodd Attalus III, brenin Pergamum y ddinas i Weriniaeth Rhufain yn ei ewyllys yn 133 CC. Yn 361. yma y cynhaliwyd Tribwnlys Chalcedon, pan roddodd yr ymerawdwr Rhufeinig Julian ei elynion ar eu prawf. Yn 451 cynhaliodd yr Eglwys Gristnogol gyngor yma, Cyngor Chalcedon.