Charles Byrd

Arlunydd Cymreig

Arlunydd a cherflunydd o Gymru oedd Philip Charles Bird a adwaenid fel Charles Byrd (Tachwedd neu Rhagfyr 191611 Ionawr 2018).[1]

Charles Byrd
GanwydPhilip Charles Bird Edit this on Wikidata
1916 Edit this on Wikidata
Maesycoed Edit this on Wikidata
Bu farw11 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Maesycoed, Pontypridd lle treuliodd 10 mlynedd cyntaf ei fywyd. Mae wedi ei ddyfynnu yn dweud mai 30 Tachwedd oedd ei ddyddiad geni ond mae dau ffynhonnell yn dweud mai 3 Rhagfyr oedd ei ben-blwydd. Tua 1926 symudodd ei deulu i'r Barri ac yna Caerdydd. Yn 14 oed cychwynnodd weithio fel clerc gyda'r General Electric Company.

Yn 1937 ymunodd gyda Chwmni Awyrennau Bryste fel gosodwr ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn gyfrifol am drwsio awyrennau Hurricane a bomiwr Blenhein. Gwasanaethodd yn y fyddin yn India, gan ddychwelyd i Gaerdydd yn 1947. Yn 32 y cychwynnodd ei ddiddordeb mewn celf, a cymerodd wersi nos yng Ngholeg Celf Caerdydd cyn dod yn arlunydd proffesiynol. Yn 1965 cychwynnodd wneud celf symudol. Datblygodd ei 'Museum of Magic Machines' yn yr Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd lle dangoswyd ei gerfluniau mecanyddol a haniaethol rhwng 1989 a 1996.

Cerflun symudol gan Charles Byrd, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, 2008

Cynhaliwyd arddangosfa o'i gerfluniau mecanyddol lliwgar yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd 2008. I gyd-fynd a'r arddangosfa, cyhoeddwyd Charles Byrd gan Is-bwyllgor Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod, cyfrol ddwyieithog am fywyd a gwaith yr arlunydd.

Roedd Byrd yn byw mewn fflat ar Ffordd Llandaff, Caerdydd lle roedd yn dal i beintio hyd ddiwrnod ei farwolaeth.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Charles BYRD : Obituary. Western Mail (2 Chwefror 2018). Adalwyd ar 10 Chwefror 2018.
  2. Charles Byrd: The charming life story of one of Wales' most prolific artists (en) , WalesOnline, 20 Ionawr 2018.