Charlie Puth

cyfansoddwr a aned yn 1991

Canwr Americanaidd yw Charles Otto Puth Jr (neu Charlie Puth) (ganwyd 2 Rhagfyr 1991). Mae hefyd yn gyfansoddwr a chynhyrchydd cerddoriaeth. Daeth i amlygrwydd drwy lwyddiant firaol fideos o'i ganeuon a uwchlwythwyd i YouTube.

Charlie Puth
GanwydCharles Otto Puth Jr. Edit this on Wikidata
2 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
Rumson Edit this on Wikidata
Label recordioAtlantic Records, eleveneleven Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Berklee College of Music
  • Rumson-Fair Haven Regional High School
  • Manhattan School of Music Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cynhyrchydd YouTube, cyfansoddwr caneuon, cerddor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCharlie, Voice Notes, Nine Track Mind Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, cyfoes R&B Edit this on Wikidata
Math o laisbaritenor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorge Michael, James Taylor, Miles Davis, John Coltrane, Bill Evans, Babyface, Jimmy Jam, Terry Lewis, Teddy Riley, Bobby Brown, Ralph Tresvant, Steve Perry, diwylliant LHDT, Elton John, Bruno Mars, Jason Mraz, Stevie Wonder, John Mayer, Madonna, Nicki Minaj, Justin Bieber Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
TadCharles Otto Puth Sr. Edit this on Wikidata
MamDebra Puth Edit this on Wikidata
PriodBrooke Sansone Edit this on Wikidata
PartnerMeghan Trainor Edit this on Wikidata
Gwobr/auBroadcast Film Critics Association Award for Best Song, Nickelodeon Kids' Choice Awards, Gwobrau Teen Choice, Billboard Music Award for Top Hot 100 Song, Billboard Music Award for Top Rap Song, Circle Chart Music Awards, Genie Music Awards, Gwobr People's Choice, Kids' Choice Awards Argentina 2011, Japan Gold Disc Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.charlieputh.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Rhyddhawyd "See You Again" fel cân cyntaf Puth yn 2015, cân a gyd-ysgrifennodd, cydgynhyrchodd ac a berfformiodd gyda Wiz Khalifa ar gyfer trac sain Furious 7 fel teyrnged i Paul Walker. Aerth i rif un ar Billboard Hot 100 yr Unol Daleithiau am 12 wythnos. Ar ôl llwyddiant "See You Again", enillodd gydnabyddiaeth fyd-eang am lawer o weithiau pellach, gan gynnwys ei sengl gyntaf "Marvin Gaye", a oedd yn cynnwys Meghan Trainor, ac roedd ganddo ganeuon ar y siartiau yn Seland Newydd, Iwerddon a'r Deyrnas Unedig.[1][2]

Bywyd Cynnar

golygu

Cafodd Charles Otto Puth Jr. ei eni ar 2ail o Ragfyr 1991, yn Rumson, New Jersey, i Debra, athro cerdd a oedd hefyd yn ysgrifennu hysbysebion ar gyfer HBO, a Charles Puth, adeiladwr. Mae ei dad yn babydd a'i fam yn Iddew. Mae ganddo un brawd ac un chwaer, sef efeilliaid Stephen a Mikaela.[3]

Mynychodd ysgol Holy Cross, Rumson, ac yna ysgol Forrestdale Middle School, cyn graddio o Rumson-Fair Haven Regional High School yn 2010. Mynychodd hefyd Manhattan School of Music Pre-College. Graddiodd Puth yn 2013 o Goleg Cerddoriaeth Berklee.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "iTunes (U.S.) – Music – Charlie Puth – Nine Track Mind". iTunes (U.S.). 29 Ionawr 2016. Cyrchwyd January 9, 2016.
  2. "Music: Top 100 Songs".
  3. "Charlie Puth". Capital FM. Cyrchwyd 29 Hydref 2017.