Charlie Sheen
Mae Carlos Irwin Estévez (ganed 3 Medi 1965), sy'n fwy adnabyddus fel Charlie Sheen, yn actor Americanaidd. Cafodd ei eni yn Nhinas Efrog Newydd, yn fab yr actor Martin Sheen.
Charlie Sheen | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Charlie Sheen ![]() |
Ganwyd | Carlos Irwin Estevez ![]() 3 Medi 1965 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor llais, cynhyrchydd ffilm, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau, sgriptiwr ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Tad | Martin Sheen ![]() |
Mam | Janet Sheen ![]() |
Priod | Donna Peele, Denise Richards, Brooke Mueller ![]() |
Partner | Bree Olson ![]() |
Plant | Cassandra Jade Estevez, Sami Sheen, Lola Rose Sheen, Bob Sheen, Max Sheen ![]() |
Perthnasau | Joe Estevez ![]() |
Gwobr/au | Golden Globes, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Yn ystod ei yrfa, mae ef wedi chwarae rhan Chris Taylor yn y ddrama am Ryfel Fietnam, Platoon (1986) a Bud Fox yn y ffilm Wall Street (1987). Mae ef hefyd wedi actio mewn rôlau mwy ysgafn gan gynnwys ffilmiau Jim Abraham Hot Shots! (1991 a 1993), a ffilmiau David Zucker Scary Movie 3 a Scary Movie 4. Ar y teledu, mae Sheen yn enwog am ddau gymeriad mewn comedïau sefyllfa: fel Charlie Crawford ar Spin City, ac fel Charlie Harper ar Two and a Half Men.
Mae Sheen hefyd yn adnabyddus am ei fywyd personol, gan gynnwys adroddiadau yn y wasg am ei gamddefnydd o alcohol a chyffuriau anghyfreithlon. Hefyd adroddwyd fod ganddo broblemau priodasol a gwnaed honiadau o drais yn y cartref yn ei erbyn. Yn ddiweddarach, cafodd ei ddiswyddo o'i rôl ar Two and a Half Men gan CBS a Warner Bros. ar 7 Mawrth, 2011. Ychydig wedi hyn, cyhoeddodd Sheen ei fod yn mynd ar daith genedlaethol.