Charlie and the Chocolate Factory (ffilm)

ffilm ffantasi am gerddoriaeth gan Tim Burton a gyhoeddwyd yn 2005

Ffilm gan Tim Burton gyda Johnny Depp, Freddie Highmore a Helena Bonham Carter ydy Charlie and the Chocolate Factory ("Charlie a'r Ffatri Siocled") (2005). Hon yw'r ail ffilm yn seiliedig ar y nofel hwn gan Roald Dahl, ac ail ffilm Tim Burton yn seiliedig ar nofel gan Roald Dahl. Roedd yn llwyddiant mawr a chafodd ei adolygiadau dda, gan dderbyn enwebiad am Wobr yr Academi yn 78fed Gwobrau'r Academi ar gyfer y Dyluniad Siwt Gorau.

Charlie and the Chocolate Factory

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Tim Burton
Cynhyrchydd Brad Grey
Richard D. Zanuck
Serennu Johnny Depp
Freddie Highmore
David Kelly
Helena Bonham Carter
Noah Taylor
Missi Pyle
James Fox
Deep Roy
Christopher Lee
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Warner Bros
Dyddiad rhyddhau Gorffennaf 2005
Amser rhedeg 115 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
Adolygiad BBC Cymru'r Byd
(Saesneg) Proffil IMDb

Actorion

golygu

Cerddoriaeth

golygu

Cyfansoddwyd y gerddoriaeth wreiddiol gan Danny Elfman, sy'n cydweithio'n aml gyda'r cyfarwyddwr Tim Burton. Mae wedi ei seilio o gwmpas tair prif thema, thema ysgafn ar gyfer y teulu Bucket, fel arfer wedi ei osod gyda chwythbrennau uwch; thema cyfriniol waltz gan yr adran tannau ar gyfer Willy Wonka; thema cyflym gyda'r gerddorfa llawn ar gyfer y ffatri. Mae samplau synth a greodd Elfman gartref i'w clywed yn lleisiau bychan corganu'r Oompa-Loompas.

Ysgrifennodd a pherfformiodd Elfman eiriau pedair cân yn ogystal. Addaswyd geiriau'r gân Oompa-Loompa o'r llyfr gwreiddiol. Mae pob sgôr wedi eu dylunio er mwyn disgrifio'r gwahanol archdeip. Mae cân "Wonka's Welcome Song" yn steil gwallgo a hapus parc thema, mae cân "Augustus Gloop" yn un steil Bollywood (yn dilyn awgrymiad Deep Roy); "Violet Beauregarde" yn funk 1970au, "Veruca Salt" pop bubble-gum / psychedelia yr 1960au; a "Mike Teavee" yn deyrnged i fandiau pop diweddar y 1970au megis Queen / a cherddoriaeth metel y 1980au cynnar.

  1. "Wonka's Welcome Song"
  2. "Augustus Gloop"
  3. "Violet Beauregarde"
  4. "Veruca Salt"
  5. "Mike Teavee"
  6. "Main Titles"
  7. "Wonka's First Shop"
  8. "The Indian Palace"
  9. "Wheels in Motion"
  10. "Charlie's Birthday Bar"
  11. "The Golden Ticket/Factory"
  12. "Chocolate Explorers"
  13. "Loompa Land"
  14. "The Boat Arrives"
  15. "The River Cruise"
  16. "First Candy"
  17. "Up and Out"
  18. "The River Cruise - Part 2"
  19. "Charlie Declines"
  20. "Finale"
  21. "End Credit Suite"

Gweler Hefyd

golygu