Charlotte Anita Whitney
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Charlotte Anita Whitney (7 Gorffennaf 1867 – 4 Chwefror 1955) a oedd yn ymgyrchydd hawliau menywod, yn ymgyrchydd gwleidyddol, ac yn Blaid Lafur Gomiwnyddol cynnar America ac yn drefnydd UDA y Blaid Gomiwnyddol yng Nghaliffornia.[1]
Charlotte Anita Whitney | |
---|---|
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1867 San Francisco |
Bu farw | 4 Chwefror 1955 San Francisco |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swffragét |
Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd America, Plaid Lafur Gomiwnyddol America, Plaid Gomiwnyddol UDA |
Tad | George Edwin Whitney |
Mae'n cael ei chofio orau fel y diffynnydd mewn achos llys yn 1920, sef Whitney v. California, a oedd yn cynnwys datganiad gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau a oedd yn cyd-fynd â'r farn gan yr Ustus Louis Brandeis, mai dim ond mewn achlysur o "berygl clir a chyfredol" y dylid atal yr hawl i lefaru'n rhydd (free speech). Yn ddiweddarach, byddai'r safon hon yn cael ei defnyddio yn erbyn y Comiwnyddion yn ystod y 1950au.
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn San Francisco ar 7 Gorffennaf 1867, yn ferch i deulu blaenllaw a oedd yn cynnwys Ustus o Oruchaf Lys America, Stephen Johnson Field, a'r aml-filiwnydd Cyrus W. Field. Roedd ei thad yn gyfreithiwr.[2]
Mynychodd Whitney ysgol breifat ac ysgol cyhoeddus yn Oakland, Califfornia, ar draws y bae o San Francisco.[2] Pan ddaeth ei haddysg yn Oakland i ben, aeth i ysgol arferol yn San Jose, Califfornia, cyn gadael am yr East Coast i fynychu Coleg Wellesley, yn Wellesley, Massachusetts, lle graddiodd ohoni ym 1889. Wedi graddio, gweithiodd am ychydig fel athrawes.
Bu farw yn San Francisco ar 4 Chwefror yn 87 oed.
Ymgyrchu
golyguCafodd ymweliad gyda rhannau tlawd Dinas Efrog Newydd gryn argraff arni a dechreuodd ar waith cymdeithasol.[3] Yn 1901 fe'i cyflogwyd fel Ysgrifennydd Gweithredol United Charities of Oakland, California lle bu hyd at 1908.[2]
Trodd yr ymgyrchu at etholfraint, neu'r hawl i bleidlais, i ferched. Rhwng 1911 ac 1913 bu'n drefnydd y National College Equal Suffrage League ac yna'n is-Lywydd y National American Woman Suffrage Association.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd America, Plaid Lafur Gomiwnyddol America a Phlaid Gomiwnyddol UDA.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas America dros yr Hawl i Ferched Bleidleisio am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad marw: "Charlotte Anita Whitney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Solon DeLeon with Irma C. Hayssen and Grace Poole (eds.), American Labor Who's Who. Efrog Newydd: Hanford Press, 1925; tud. 249.
- ↑ Charities: A Weekly Review of Local and General Philanthropy, cyfrol 7; rhif 1 (July–December 1901), tud. 348.