Charlotte Greenwood
Actores, dawnsiwr a chantores o'r Unol Daleithiau oedd Charlotte Greenwood (25 Mehefin 1890 - 28 Rhagfyr 1977). Dechreuodd ei gyrfa yn 1913 yn y ddrama lwyfan The Tik-Tok Man of Oz, ac aeth ymlaen i serennu mewn nifer o ddramâu llwyfan, ffilmiau a rhaglenni radio llwyddiannus. Mae Greenwood yn cael ei chofio orau am ei rolau yn y ffilm So Long Letty o 1929 ac addasiad ffilm 1955 o Oklahoma! gan Rodgers a Hammerstein. Roedd hi'n eitha tal; tua 6 troedfedd ac yn fwyaf adnabyddus am ei choesau hir a'i chiciau uchel. Enillodd y ganmoliaeth unigryw o fod, yn ei geiriau hi, yr unig fenyw yn y byd a allai gicio jiráff yn ei lygad.[1]
Charlotte Greenwood | |
---|---|
Ganwyd | Frances Charlotte Greenwood 25 Mehefin 1890 Philadelphia |
Bu farw | 28 Rhagfyr 1977, 28 Rhagfyr 1978 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | dawnsiwr, actor llwyfan, actor ffilm |
Tad | Frank Greenwood |
Mam | Annabelle Higgins |
Priod | Cyril Ring, Martin Joseph Broons |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Ganwyd hi yn Philadelphia yn 1890 a bu farw yn Los Angeles yn 1977. Roedd hi'n blentyn i Frank Greenwood ac Annabelle Higgins. Priododd hi Cyril Ring a wedyn Martin Joseph Broons.[2][3][4][5][6]
Gwobrau
golygu
Dyfarnwyd nifer o wobrau neu deitlau i Charlotte Greenwood yn ystod ei hoes, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Charlotte Greenwood". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Greenwood". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Greenwood". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Charlotte Greenwood". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Greenwood". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Greenwood". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 28 Tachwedd 2019.
- ↑ Tad: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
- ↑ Mam: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org